Canslo llawdriniaethau Bronglais am yr ail ddiwrnod

Y bwrdd iechyd yn ei ddisgrifio fel “sefyllfa heriol”

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Am yr ail ddiwrnod yn olynol mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi cadarnhau bydd llawdriniaethau oedd wedi’u trefnu yn cael eu canslo yn ysbytai Bronglais, Glangwili, Tywysog Phillip a Llwynhelyg a hynny er budd a diogelwch y cleifion.

Yn dilyn “pwysau difrifol” ar y Gwasanaeth Iechyd dros y penwythnos bu’n rhaid i’r Bwrdd Iechyd ganslo’r holl lawdriniaethau yn yr ysbytai hyn.

Mae’r Bwrdd Iechyd yn disgrifio’r sefyllfa fel un “heriol”, ond yn dweud ei fod yn “parhau i gydweithio â’r awdurdodau lleol i weithredu’r cynllun gaeaf” er mwyn ceisio lleihau’r galw.

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, ddoe bod y pwysau ychwanegol ar y gwasanaeth iechyd i’w ddisgwyl dros gyfnod y Nadolig, ond roedd yn cydnabod bod y gwasanaeth dan “bwysau sylweddol”.

Nid yw’n glir eto os bydd Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn canslo llawdriniaethau sydd wedi’u trefnu ar gyfer dydd Mercher.