Am yr ail ddiwrnod yn olynol mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi cadarnhau bydd llawdriniaethau oedd wedi’u trefnu yn cael eu canslo yn ysbytai Bronglais, Glangwili, Tywysog Phillip a Llwynhelyg a hynny er budd a diogelwch y cleifion.
Yn dilyn “pwysau difrifol” ar y Gwasanaeth Iechyd dros y penwythnos bu’n rhaid i’r Bwrdd Iechyd ganslo’r holl lawdriniaethau yn yr ysbytai hyn.
Mae’r Bwrdd Iechyd yn disgrifio’r sefyllfa fel un “heriol”, ond yn dweud ei fod yn “parhau i gydweithio â’r awdurdodau lleol i weithredu’r cynllun gaeaf” er mwyn ceisio lleihau’r galw.
Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, ddoe bod y pwysau ychwanegol ar y gwasanaeth iechyd i’w ddisgwyl dros gyfnod y Nadolig, ond roedd yn cydnabod bod y gwasanaeth dan “bwysau sylweddol”.
Nid yw’n glir eto os bydd Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn canslo llawdriniaethau sydd wedi’u trefnu ar gyfer dydd Mercher.