Bwca yn rhyddhau “Tregaron”

Bwca yn rhyddhau sengl o’r enw “Tregaron” i godi gwên a chynnal cyffro yr Eisteddfod tan 2021

Bwca (@bwcacymru)
gan Bwca (@bwcacymru)
Llun clawr Tregaron - Bwca

“Os chi’n ddigalon – dyma’ch gwerddon!”

Yn dilyn y newyddion fod Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn Nhregaron eleni wedi ei ohirio tan 2021 mae Bwca newydd rhyddhau sengl o’r enw “Tregaron” i godi gwên a chynnal y cyffro am flwyddyn arall. Gallwch ffrydio a lawrlwytho’r gân o Spotify, Apple Music a’r holl blatfformau digidol nawr.

Ysgrifennwyd Tregaron gan Steff Rees o Aberystwyth, sefydlydd Bwca rhai blynyddoedd yn ôl yn dilyn sbin randym yn y car i Dregaron ar ddiwrnod ffein gwnaeth godi ei galon fel tasai’n rhywfath o werddon i’w enaid.

Cân canu gwlad cyfoes ei naws yw “Tregaron” ac yn perfformio ar y trac mae Steff Rees (gitârs a llais), Rhydian Meilir (drymiau), Nick Davalan (gitâr fas), Kristian Jones (gitâr), Ffion Evans (llais), Dilwyn Roberts Young (organ geg) ac Iwan Hughes (offer taro). Recordiwyd, cynhyrchwyd a mastrwyd y gân gan Ifan Jones ac Osian Williams o gwmni Drwm yn Stiwdio Sain.

Lois Ilar sydd yn gyfrifol am waith celf y sengl. Yn hannu o Gaerfyrddin ond gyda chysylltiadau teuluol gydag ardal Llanilar, Lois sydd hefyd wedi ei chomisiynu i greu gwaith celf albwm cyntaf Bwca bydd Tregaron yn ran ohono. Dyma flas felly i chi o’r cywaith gweledol a cherddorol sydd ar y ffordd!

Mae albwm cyntaf Bwca bron iawn yn barod felly gwyliwch lygad barcud mas am hwnna yn y dyfodol agos.

Dyma Bwca yn perfformio’r gân ar Noson Lawen S4C yn ddiweddar: