Busnesau bach a mawr Aber yn dathlu Dwynwen

“Mae’n nhw’n gwerthu mas!” oedd sylw Angharad o Siop Inc am boblogrwydd cardiau Santes Dwynwen.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Arddangosfa Santes Dwynwen Marks & Spencer Aberystwyth

Mae bwytai, siopau cardiau a blodau, a Marks & Spencer yn Aberystwyth yn ymateb i gynnydd yn y galw am nwyddau Santes Dwynwen.

Mae siopau Cymraeg yn dweud bod gwerthiant cardiau Dwynwen ar gynnydd ac yn denu cwmnïau mawr, mae ambell gwmni mawr fel Marks & Spencer yn cynnal ymgyrchoedd gwerthu ac mae nifer o westai a mannau bwyta yn cynnig prydau a bargeinion arbennig.

Mae tystiolaeth a gasglodd golwg360 yn nhref Aberystwyth yn dangos bod diddordeb ar gynnydd o gymharu â blynyddoedd cynnar y dathliadau yn yr 1960au.

Cardiau a blodau

“Rydw i’n cael cwsmeriaid yn dod i mewn yn dweud ‘well i mi wneud’,” meddai Angharad Morgan o Siop Inc yn Aberystwyth. “Ond maen nhw’n gwerthu mas!

“Fel arfer mae gen i un ochr o ‘spinner’ â chardiau Pasg arno fe, ond mae angen dwy ochr i’r cardiau Santes Dwynwen.”

Eglurodd hefyd ei bod wedi sylwi eleni nad cynhyrchwyr Cymraeg yn unig sy’n creu cardiau ar gyfer yr achlysur, ond mae cwmni mawr fel “Tracks Publishing” hefyd yn manteisio ar y dathliad.

“Fe agoron ni chwe blynedd yn ôl” meddai Alex o siop flodau No.21. “Bryd hynny efallai roedden ni’n gwerthu rhyw ddau neu dri tusw. Ond dros y ddwy flynedd diwetha’ r’yn ni’n gwerthu ymhell dros ugain.”

Marks & Spencers

“Mae’r cwmni yn ceisio cefnogi digwyddiadau Cymreig,” meddai lleafarydd ar ran y siop yn Aberystwyth. “Rydyn ni fel siopau yng Nghymru a’r siopau ar y ffin wedi cael cyfarwyddyd gan y brif swyddfa i greu ‘ardal ddigwyddiadau’ Santes Dwynwen.

“Rydyn ni’n gwerthu llawer o flodau, a byddwn yn cael cardiau Cymraeg cyn y diwrnod hefyd gan ein bod wedi cael llawer yn gofyn amdanyn nhw. Dim ond un math ar hyn o bryd, ond efallai erbyn y flwyddyn nesaf y bydd mwy.

“Fe gawson ni lawer o sylw ar twitter llynedd pan welodd pobol ein bod yn dathlu’r diwrnod ac felly mae’n rhywbeth mae’r brif swyddfa yn awyddus i  gario ‘mlaen ag e.”

Bwytai

  • Y Richmond, y White Horse a Baravin – dim cynlluniau i wneud dim arbennig.
  • Gwesty Cymru- gynnig bwydlen arbennig, neu y “special specials” i’w cwsmeriaid ar 25 Ionawr.
  • Gwesty’r Marine – wedi bwriadu cynnal Ffair Briodas ar y diwrnod ond wedi gorfod canslo oherwydd gwrthdaro â digwyddiad arall tebyg.

“Rydyn ni’n cynnig hyn bob blwyddyn” meddai Nerys o Westy Cymru, “Ac mae 90% o’n ‘bookings’ ni ar y nos Sadwrn yna yn gyplau sydd yn dathlu Santes Dwynwen.”

Mwy o’r ymateb yn Aberystwyth yma: