Busnes bro y dydd – Ymateb Angharad Siop Inc i’r coronafeirws

Angharad Siop Inc sy’n trafod effaith coronafeirws ar fusnesau, yn rhan o’n cyfres #BusnesauBro

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Hyd yn oed yng nghanol pandemig mae’r croeso’r un fath gan Angharad Siop Inc, ac er bod dyfodol ansicr yn wynebu nifer o fusnesau ar draws y wlad mae hi’n ddiolchgar i bawb sydd wedi parhau i gefnogi’r siop dros y cyfnod yma.

Dywedodd wrth golwg360 bod y siop sydd wedi bod yn gwerthu llyfrau a nwyddau Cymraeg ar Stryd y Bont, Aberystwyth, ers 2004, wedi bod yn brysur dros y dyddiau diwethaf wrth i bobol baratoi ar gyfer yr wythnosau nesaf.

Er hyn, mae’n aneglur am ba hyd bydd modd i’r siop aros ar agor.

Gwyliwch gyfweliad Angharad Siop Inc: