Ydych chi’n mwynhau crefftau, creu a gwaith llaw? Hoffech chi helpu i roi dipyn o liw i ardal Gogledd Ceredigion cyn ymweliad yr Eisteddfod? Beth am gynhyrchu fflagiau ar gyfer yr Eisteddfod?
Beth am i’ch capel, eglwys, mudiad, neu ysgol baratoi baneri lliwgar i nodi eich croeso? Gall rhai aelodau gyfrannu defnydd, ac eraill yn cyfrannu eu sgiliau gwnïo, gydag eraill i’w gosod yn eu lle.
Mae Capel Seion, Baker Street, Aberystwyth wedi dechrau ar y gwaith ac wedi casglu dros 100 o gorneli ar gyfer eu fflagiau. Dywedodd Lewis Griffiths “Mae gennym apêl am hen ddefnyddiau er mwyn gwneud baneri i wisgo’r capel fel arwydd o’n croeso i’r Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst. Byddem yn gwerthfawrogi cymorth gwirfoddolwyr o bob oedran i dorri a phwytho.”
Meddai Gwenllïan Carr ar ran yr Eisteddfod, “Rydym yn gwybod bod ein hymwelwyr yn falch o weld bod croeso iddyn nhw ac i’r Eisteddfod ym mhob ardal, ac mae fflagiau a phosteri lliwgar yn ffordd hawdd i ddangos hyn.”
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn Nhregaron o 1-8 Awst. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan yr Eisteddfod, www.eisteddfod.cymru. Mae mwy o wybodaeth am Gapel Seion ar seionaberystwyth.cymru