Mae Sw Borth wedi gorfod cau yn dilyn pryderon gan y cyngor sir “ddiogelwch y cyhoedd a lles yr anifeiliaid.”
Mewn datganiad ar wefannau cymdeithasol dywedodd Borth Wild Animal Kingdom: “Bydd y sw yn cau am rai dyddiau wrth i ni ddatrys problemau gyda ein tîm drylliau diogelwch.”
“Rydym yn gobeithio datrys hyn mor fuan â phosib er mwyn ail agor yn fuan. Diolch i bawb am eich cefnogaeth.”
Dywedodd y Cynghorydd Gareth Lloyd, aelod Cabinet sy’n gyfrifol am Wasanaethau Amddiffyn y Cyhoedd: “Diogelwch y cyhoedd a lles yr anifeiliaid yw ein prif flaenoriaeth, rydym wedi dewis i gau’r llociau Categori 1 yn seiliedig ar hyn.”
Cadarnhawyd bod Sw Borth wedi methu â chyrraedd y gofynion hyn.
Problemau blaenorol
Dihangodd lyncs Ewrasaidd o’r sŵ mis Hydref 2017, a bu’n rhaid eu gwahardd rhag cadw anifeiliaid categori un am gyfnod.
Yn dilyn y digwyddiad arwyddodd 12,000 o bobl deiseb ar-lein gan Ymddiriedolaeth Lyncs y Deyrnas Unedig yn galw ar gau’r sw a brynwyd gan