Boreau Coffi dros Zoom

gan Medi James

Bore Coffi Cymdeithas yr Iaith

Ym mis Ionawr eleni wrth ail ddechrau mynychu boreau coffi ‘dysgwyr’ mewn ambell gaffi yn ardal Aberystwyth ychydig a feddyliais y byddwn, ymhen deufis, yn gweld llawer o’r dysgwyr Cymraeg yma ar sgrin bach fy i pad. Dyma un o’r newidiadau mawr dwi wedi ‘i brofi yn ystod y cyfnod clo.

Dyma drio meistroli a deall Zoom. Ei lawr lwytho heb fod yn siwr iawn ai o China neu America ddaw y dechnoleg. Yna ymateb i her gan Gymdeithas yr Iaith a chaffi cymunedol Cletwr i ymuno a nhw yn eu boreau coffi rhithiol

Dim angen gwisgo’n deidi, dim angen arian i dalu am y coffi dim ond sicrhau bod y llestri budron brecwast ddim yn gefnlen i mi tra dwi’n eistedd yn gyfforddus wedi fy amgylchynu gan rai pobl lleol sydd wrthi’n dysgu Cymraeg ag eraill yn wynebau newydd o Awstralia, Port Talbot, Surrey a Thywyn. Pob un ohonom yn yr un picil. Eisiau siarad a gwaredu ‘u rhwystrediaethau. Pawb yn mwynhau ac yn torri ar draws ‘u gilydd tan i ni ddechrau arfer a chael trefn ar arwyddo cyn siarad a chau’r meic i gau allan unrhyw swn allanol.

Mae boreau coffi Zoom Cymdeithas yr Iaith yn denu y dysgwyr sy’n mynychu cyrsiau’r Gymdeithas a nifer wedi ‘u siomi bod penwythnos preswyl y Gwanwyn yn Nhresaith wedi gorfod cael ei ohirio. Byddwn yn cwrdd bob bore dydd Mawrth am 10.00am ac os ydych am roi gwybod i unrhywun, gallant e bostio’r gymdeithas am fwy o wybodaeth post@cymdeithas.org

 

Bore Coffi Cymdeithas yr Iaith

Mae Dal Ati wedi cael ei gynnal am bedair blynedd bellach yn fore coffi misol ar Sadyrnau yng nghaffi Cletwr yn Nhre’r Ddol ble daw dysgwyr a siaradwyr Cymraeg ynghyd i sgwrsio. Erbyn hyn ‘dyn ni hefyd ar Zoom bob bore Sadwrn am 11.00am. Gellir cael mwy o wybodaeth trwy gysylltu a www.cletwr.com

 

Bore Coffi Caffi Cletwr

Mae’r sgwrsio wedi bod yn hynod o rwydd a diddorol. Os yw’r cyfnewid hanesion ar fywyd yn ystod y cyfnod clo yn mynd yn ddiflas mae’n werth cael testun neu bwnc i’w drafod. Rydyn ni wedi bod yn cyfnewid idiomau Cymraeg, trafod rysetiau bwyd, darllen a deall un darn a enillodd  yng nghystadleuaeth dysgwyr yr Eisteddfod Genedlaethol a darllen y gerdd, Traeth y Pigyn, a dod i adnabod T Llew Jones.

Mae na lawer o drafod ar sut mae ein bywydau bob dydd wedi newid yn ystod y misoedd diwetha. Er gwell er gwaeth. Yn sicr i unrhyw un sy’n dysgu Cymraeg ac am ymarfer heb symud o’i ty neu ar amser cyfleus iddynt mae’r dull yma o ymarfer iaith yn sicr yn un dull fydd yn aros.