Ym mis Ionawr eleni wrth ail ddechrau mynychu boreau coffi ‘dysgwyr’ mewn ambell gaffi yn ardal Aberystwyth ychydig a feddyliais y byddwn, ymhen deufis, yn gweld llawer o’r dysgwyr Cymraeg yma ar sgrin bach fy i pad. Dyma un o’r newidiadau mawr dwi wedi ‘i brofi yn ystod y cyfnod clo.
Dyma drio meistroli a deall Zoom. Ei lawr lwytho heb fod yn siwr iawn ai o China neu America ddaw y dechnoleg. Yna ymateb i her gan Gymdeithas yr Iaith a chaffi cymunedol Cletwr i ymuno a nhw yn eu boreau coffi rhithiol
Dim angen gwisgo’n deidi, dim angen arian i dalu am y coffi dim ond sicrhau bod y llestri budron brecwast ddim yn gefnlen i mi tra dwi’n eistedd yn gyfforddus wedi fy amgylchynu gan rai pobl lleol sydd wrthi’n dysgu Cymraeg ag eraill yn wynebau newydd o Awstralia, Port Talbot, Surrey a Thywyn. Pob un ohonom yn yr un picil. Eisiau siarad a gwaredu ‘u rhwystrediaethau. Pawb yn mwynhau ac yn torri ar draws ‘u gilydd tan i ni ddechrau arfer a chael trefn ar arwyddo cyn siarad a chau’r meic i gau allan unrhyw swn allanol.
Mae boreau coffi Zoom Cymdeithas yr Iaith yn denu y dysgwyr sy’n mynychu cyrsiau’r Gymdeithas a nifer wedi ‘u siomi bod penwythnos preswyl y Gwanwyn yn Nhresaith wedi gorfod cael ei ohirio. Byddwn yn cwrdd bob bore dydd Mawrth am 10.00am ac os ydych am roi gwybod i unrhywun, gallant e bostio’r gymdeithas am fwy o wybodaeth post@cymdeithas.org
Mae Dal Ati wedi cael ei gynnal am bedair blynedd bellach yn fore coffi misol ar Sadyrnau yng nghaffi Cletwr yn Nhre’r Ddol ble daw dysgwyr a siaradwyr Cymraeg ynghyd i sgwrsio. Erbyn hyn ‘dyn ni hefyd ar Zoom bob bore Sadwrn am 11.00am. Gellir cael mwy o wybodaeth trwy gysylltu a www.cletwr.com
Mae’r sgwrsio wedi bod yn hynod o rwydd a diddorol. Os yw’r cyfnewid hanesion ar fywyd yn ystod y cyfnod clo yn mynd yn ddiflas mae’n werth cael testun neu bwnc i’w drafod. Rydyn ni wedi bod yn cyfnewid idiomau Cymraeg, trafod rysetiau bwyd, darllen a deall un darn a enillodd yng nghystadleuaeth dysgwyr yr Eisteddfod Genedlaethol a darllen y gerdd, Traeth y Pigyn, a dod i adnabod T Llew Jones.
Mae na lawer o drafod ar sut mae ein bywydau bob dydd wedi newid yn ystod y misoedd diwetha. Er gwell er gwaeth. Yn sicr i unrhyw un sy’n dysgu Cymraeg ac am ymarfer heb symud o’i ty neu ar amser cyfleus iddynt mae’r dull yma o ymarfer iaith yn sicr yn un dull fydd yn aros.