O Bonterwyd i Fangor – ac i Rydychen

Taith gerdded noddedig rithiol disgyblion Ysgol Syr John Rhys, Ponterwyd

gan Cerys Burton

Enwyd ysgol gynradd Ponterwyd ar ôl un o ddynion mwyaf llwyddiannus y pentref, Syr John Rhys. Cafodd ei eni ar 21 Mehefin 1840, ac ar ôl derbyn ei addysg gynnar yn y pentref aeth ymlaen i’r Coleg Normal ym Mangor.

Wedi i’r disgyblion ddysgu am ei hanes, penderfynon ni osod her i ni ein hunain a chymuned yr ysgol. Er mwyn i John Rhys gael ei dderbyn ar gwrs ysgolfeistr roedd yn rhaid iddo eistedd arholiad yn y Coleg Normal, Bangor. Bu’n rhaid iddo gerdded yr holl ffordd o’i gartref ar gyrion pentref Ponterwyd i’r coleg ym Mangor, ac yn ôl.

Felly dyna oedd yr her: cerdded o Bonterwyd i’r Coleg Normal ym Mangor ac yn ôl – pellter o 164 o filltiroedd. Cerddodd disgyblion Cyfnod Sylfaen yr ysgol o amgylch iard yr ysgol er mwyn cwblhau’r filltir gyntaf. Yna, fe wnaeth disgyblion Cyfnod Allweddol 2 gerdded o’r ysgol i gartref genedigol Syr John Rhys, sef Aberceiro Fach, ac yn ôl. Er mwyn cynyddu’r milltiroedd, fe wnaeth y disgyblion a’u teuluoedd fynd ati i gerdded yn eu hamser eu hunain. Braf oedd gweld aelodau’r gymuned yn cyfrannu at yr her a chefnogi’r ysgol wrth fynd ati i gerdded hefyd.

Cyn hir roedd y targed o 164 milltiroedd wedi’i gyrraedd, felly penderfynodd y plant osod her newydd. Aeth Syr John Rhys ymlaen i fod yn bennaeth Coleg yr Iesu, Rhydychen, 125 o flynyddoedd yn ôl. Felly, yr her newydd oedd cerdded o Bonterwyd i Rydychen. Fe lwyddodd y plant a’r gymuned i gerdded yno’n rhithiol, ac erbyn hyn mae yna gyfanswm o 403 o filltiroedd wedi’u cerdded!

Nawr, yn fwy nag erioed mae’n hanfodol i ni fel cymuned dynnu at ein gilydd; roedd yr her gerdded yn rhoi cyfle i ni gadw ein corff a’n meddwl yn iach yn ystod yr amseroedd anodd. Mae cyfanswm o £1,200 wedi cael ei godi yn ystod y daith, ac mae’r arian yn mynd tuag at redeg yr ysgol. Dymuna’r ysgol ddiolch i bawb am eu cefnogaeth a’u haelioni yn ystod y daith noddedig.