Galw dybryd am welyau nyrsio yng Ngogledd Ceredigion

Mae grŵp yn galw am gydnabod yr argyfwng sydd oherwydd diffyg gwlâu nyrsio mewn cartrefi preswyl.

Mererid
gan Mererid

Yn dilyn penderfyniad Cabinet Cyngor Sir Ceredigion dydd Mawrth, mae grŵp yn galw am gydnabyddiaeth fod argyfwng sydd oherwydd diffyg gwlâu nyrsio mewn cartrefi preswyl.

Cyfarfu Fforwm Gofal Henoed Gogledd Ceredigion yn Aberystwyth ar nos Iau, 27ain o Chwefror, cytunwyd i barhau i ymgyrchu i sicrhau fod cartref Bodlondeb yn parhau i ddarparu gofal henoed, yn unol â phenderfyniad gwreiddiol y Cabinet. Mae’r grŵp hefyd yn awyddus i nodi nad Bodlondeb yr adeilad sydd yn bwysig, ond fod y diffyg gwlâu nyrsio yn cael sylw brys.

Cyflwynodd Peter Skitt, cynrychiolydd o Fwrdd Iechyd Hywel Dda, eu safbwynt, sef y gallent ariannu gwlâu nyrsio unigol ond na allent ymyrryd yn y farchnad breifat na ariannu cartrefi preswyl eu hunain. Dyma’r hyn oedd gan Lisa Francis i’w ddweud: –

Roedd 30 o drigolion Aberystwyth yn derbyn gofal nyrsio mewn cartrefi tu allan i’r sir, a nifer o’r rhain mor bell â’r Trallwng a Phontarddulais. Mae hwn yn rhoi pwysau sylweddol ar y teuluoedd sydd eisiau mynd i ymweld â nhw.

Trafodwyd hefyd benderfyniad y Cyngor Sir i wyrdroi eu penderfyniad blaenorol i gyfyngu gwerthiant y cyn-gartref preswyl Bodlondeb i ddatblygu cartref nyrsio a dementia. Mae hyn er gwaetha’r ffaith fod cynnig i’w brynu wedi ei dderbyn gan rywun a phrofiad sylweddol yn y maes, a chynlluniau clir ar gyfer yr adeilad. Mae’r Cyngor wedi gwrthod y gwerthiant yma, a bydd yn trafod am 3 mis gyda chymdeithasau tai, cyn rhoi’r tir ar y farchnad agored os nad oes diddordeb. Ni fydd yr atebion yma yn lleddfu’r problemau o ddiffyg gwlâu.

Fel un fu’n gweithio yng Nghartref Bodlondeb am flynyddoedd, poeni am ddyfodol gweddill cartrefi preswyl y sir fel Tregerddan mae David Thomas (Dai Dogs): –

 

Mae’r grŵp yn cynnwys aelodau o’r pedair plaid wleidyddol, ac felly yn ymgyrchu dros hawliau Gofal Henoed yn hytrach nac am unrhyw fudd gwleidyddol.

Isod mae dau gynghorydd tref o ddwy blaid wahanol- Cyng. Charlie Kinsgbury (y dirprwy faer) a’r Cyng. Talat Chaudhri (y cyn-faer) yn nodi’r prif bwyntiau o’r noson: –