Pen-blwydd Arad Goch yn 31

Sut mae Arad Goch yn addasu ar gyfer cyfnod COVID-19

Arad Goch
gan Arad Goch

Y llynedd, fe wnaethom ni ddathlu pen-blwydd Cwmni Theatr Arad Goch yn 30 oed mewn steil, gyda rhaglen brysur o waith! Eleni, mi fydd ein pen-blwydd unwaith eto’n gofiadwy, ond efallai ddim am yr un rhesymau. Mae Cwmni Theatr Arad Goch, fel llawer o gwmnïau celfyddydol eraill, wedi gwario’r wythnosau diwethaf yn ceisio meddwl am bethau newydd, gwahanol a diogel i’w gwneud, gyda COVID-19 yn rhoi stop ar ein rhaglen arferol.

Dechreuodd dathliadau 2019 gyda Gŵyl Agor Drysau – gŵyl ryngwladol o theatr i bobl ifanc a phant gyda chwmnïau’n dod o bedwar ban byd i berfformio yng Nghymru. I gyd-fynd â dechrau’r ŵyl, fe wnaethom ni ailagor Canolfan Arad Goch, cartref y cwmni, i’r cyhoedd wedi gwaith adnewyddu sylweddol. Wrth fwrw ymlaen at yr haf, fe gychwynnodd taith Rwtsh Ratsh Rala Rwdins. Hwn oedd cynhyrchiad cyntaf y cwmni erioed ’nôl yn 1989, ac felly, i ddathlu’r pen-blwydd, fe aeth Rwdlan a’i ffrindiau allan ar daith eto. Ar ddiwedd y flwyddyn, gwaith newydd a chyffrous gafodd y sylw, gyda’r cynhyrchiad trawiadol Hudo yn cipio gwobr Arts & Business Cymru cyn cychwyn ar daith estynedig o gwmpas ysgolion uwchradd ledled Cymru. Yna, i gloi’r flwyddyn fe ddechreuwyd gwneud gwaith datblygu ar gynhyrchiad newydd sbon – Tu fewn-Tu fas.

Felly, beth am 2020? Gyda’r Eisteddfod Genedlaethol ar ei ffordd i Geredigion, ein bwriad oedd teithio gyda chynhyrchiad am un o gymeriadau mwyaf eiconig yr ardal – Twm Siôn Cati! Erbyn hyn, mae’n annhebygol y bydd Twm yn ymddangos ar lwyfannau Cymru. Felly, beth sydd ’da ni ar y gweill?

Dros yr wythnosau nesaf mi fyddwn ni’n cynnal gweithgareddau ar-lein i gadw plant a theuluoedd yn brysur ac yn greadigol tra maen nhw’n aros adref. Bydd hyn yn cynnwys gweithdai a fideo cyfranogol, a bydd cyfle hefyd i edrych ’nôl ar hen gynyrchiadau Arad Goch! Rydyn ni wrthi’n edrych drwy archif enfawr Arad Goch ar hyn o bryd i weld pa gynyrchiadau y gallwn ni eu dangos ar-lein.

Cadwch lygad ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol dros yr wythnosau nesaf i weld sut y gallwch chi gadw mewn cysylltiad ag Arad Goch a bod yn greadigol gyda ni – yn ddigidol!