Blog byw gan aelodau CFfI Ceredigion ar noson olaf wythnos #dramacardi – uchafbwyntiau pob noson, y feirniadaeth a’r canlyniadau.
- Clwb Ponstian yn mynd â hi ar ddiwedd yr wythnos, gyda CFfI Llangwyryfon yn ail a Chlwb Llangeitho yn drydydd
- Tri aelod oedd wedi sgriptio’r ddrama orau eleni (Endaf, Carwyn a Cennydd)
- Y beirniad Janet Aethwy yn canmol pob clwb am gystadlu ac yn annog pawb i fynd mas i berfformio eto yn eu cymunedau
Y clwb wedi mwynhau neithiwr yn perfformio drama Grym y Gair yn Theatr Felinfach#dramacardi @CeredigionYFC pic.twitter.com/RkCM4kCyDJ
— C.Ff.I. Trisant (@cffitrisant) February 20, 2020
Bois Trisant yn barod i berfformio#dramacardi pic.twitter.com/DYaaWifjpD
— C.Ff.I. Trisant (@cffitrisant) February 19, 2020
Yn gyntaf ar y llwyfan oedd Clwb Trisant yn perfformio Grym y Gair gan Sgwad Sgriptio Trisant.
Y tri chlwb fu’n perfformio nos Fercher oedd Trisant, Llangwyrfon a Mydroilyn …
Yn cloi’r nos Fawrth oedd Tregaron, yn perfformio O Dan Yr Un To gan Gary Davies, a wedi ei chynhyrchu gan Emyr Lloyd, Nerys Williams ac Ifan Davies.
Cast: Gwion Jones, Dwynwen Jones, Delun Davies, Cari Davies, Lisa Williams, Cerys Owens, Dewi Jones a Manon Jones.
Bu Clwb Troedyraur yn perfformio Bryniau’r Glas – Atgofion gan Lyn T Jones, addasiad Cymraeg o Blue Remembered Hills gan Dennis Potter.
Dyma’r cast:
Willie – Llew Morgan
Peter – Dafydd James
John – Gethin Davies
Raymond – Tomos Rees
Donald – Deiniol Organ
Audrey – Elen Davies
Angela – Erin Morgan
Drama tri pherson oedd da Bro’r Dderi, perfformiad o Maes Terfyn gan Gwyneth Glyn, a gynhyrchwyd gan Elliw Dafydd. Yr actorion oedd Carys Jones, Lowri Pugh-Davies ac Aron Dafydd.
Dyma glip byr o un o’r ymarferion.
Y tri chlwb a berfformiodd nos Fawrth oedd Bro’r Dderi, Troed-yr-aur a Thregaron.
Cyn y cystadlu nos Fawrth bu Mared Lloyd Jones, un o Ddirprwyon y Sir, yn edrych mlaen i’r noson.