BLOG BYW: Dramâu CFfI Ceredigion

Megan Lewis
gan Megan Lewis

Blog byw gan aelodau CFfI Ceredigion ar noson olaf wythnos #dramacardi – uchafbwyntiau pob noson, y feirniadaeth a’r canlyniadau.

  • Clwb Ponstian yn mynd â hi ar ddiwedd yr wythnos, gyda CFfI Llangwyryfon yn ail a Chlwb Llangeitho yn drydydd
  • Tri aelod oedd wedi sgriptio’r ddrama orau eleni (Endaf, Carwyn a Cennydd)
  • Y beirniad Janet Aethwy yn canmol pob clwb am gystadlu ac yn annog pawb i fynd mas i berfformio eto yn eu cymunedau

19:56

Drama tri pherson oedd da Bro’r Dderi, perfformiad o Maes Terfyn gan Gwyneth Glyn, a gynhyrchwyd gan Elliw Dafydd. Yr actorion oedd Carys Jones, Lowri Pugh-Davies ac Aron Dafydd.

Dyma glip byr o un o’r ymarferion.

 

19:53

Y tri chlwb a berfformiodd nos Fawrth oedd Bro’r Dderi, Troed-yr-aur a Thregaron.

19:49

Cyn y cystadlu nos Fawrth bu Mared Lloyd Jones, un o Ddirprwyon y Sir, yn edrych mlaen i’r noson.

 

19:43

19:37

Uchafbwyntiau nos Lun.

19:36

Braf oedd gael sgwrs bach gyda’r ddau aelod ifancaf oedd yn camu i llwyfan y ddrama am y tro cyntaf eleni cyn iddynt berfformio. Y ddau yn edrych ymlaen a wedi mwynhau’r profiad ?? Da iawn chi!

Posted by CFfI Caerwedros on Tuesday, 18 February 2020

Noa Harries a Jano Evans, dau aelod sy’n cystadlu’n y ddrama am y tro cynta’n edrych ymlaen i berfformio!

19:32

Ac yn cloi nos Lun oedd Caerwedros yn perfformio Y Ditectif, gan Gwynedd Jones a chynhyrchwyd gan Gareth Ioan
Cast: Anest James, Osian Dafis, Noa Harries, Jano Evans, Osian Davies a Rhiannon Davies

19:24

Posted by Cffi Llangeitho on Tuesday, 18 February 2020

Aelodau Llangeitho yn benderfynol o beidio â cholli eu cardiau aelodaeth

19:21

Posted by Cffi Llangeitho on Tuesday, 18 February 2020

Meirian Morgan yn cystadlu am y tro ola’, a Betsan Gwladys am y tro cynta!

19:18

Clwb Llangeitho oedd nesa nos Lun