Blog byw gan aelodau CFfI Ceredigion ar noson olaf wythnos #dramacardi – uchafbwyntiau pob noson, y feirniadaeth a’r canlyniadau.
- Clwb Ponstian yn mynd â hi ar ddiwedd yr wythnos, gyda CFfI Llangwyryfon yn ail a Chlwb Llangeitho yn drydydd
- Tri aelod oedd wedi sgriptio’r ddrama orau eleni (Endaf, Carwyn a Cennydd)
- Y beirniad Janet Aethwy yn canmol pob clwb am gystadlu ac yn annog pawb i fynd mas i berfformio eto yn eu cymunedau
Mae'n FYW – blog #dramacardi gan aelodau @CeredigionYFC!
Os chi'n methu bod yn @TheatrFelinfach heno, ond ishe dala'r cyfan – y feirniadaeth, y canlyniadau, lluniau'r clybiau a'r sgyrsiau diddorol, ewch i wefannau bro @Clonc360 neu @BroAber_360 https://t.co/HeySllGOgQ
— Clonc 360 (@Clonc360) February 21, 2020
Uchafbwyntiau nos Lun.
Braf oedd gael sgwrs bach gyda’r ddau aelod ifancaf oedd yn camu i llwyfan y ddrama am y tro cyntaf eleni cyn iddynt berfformio. Y ddau yn edrych ymlaen a wedi mwynhau’r profiad ?? Da iawn chi!
Posted by CFfI Caerwedros on Tuesday, 18 February 2020
Noa Harries a Jano Evans, dau aelod sy’n cystadlu’n y ddrama am y tro cynta’n edrych ymlaen i berfformio!
Posted by Cffi Llangeitho on Tuesday, 18 February 2020
Aelodau Llangeitho yn benderfynol o beidio â cholli eu cardiau aelodaeth
Posted by Cffi Llangeitho on Tuesday, 18 February 2020
Meirian Morgan yn cystadlu am y tro ola’, a Betsan Gwladys am y tro cynta!
Y cyntaf ar y llwyfan nos Lun, oedd Clwb Llanddeiniol, a fu’n perfformio Rhithweledigaethau Rhyfedd Jemeima. Dyma’r criw wrthi’n ymarfer yn brysur
Shwmai! Croeso i flog byw CFfI Ceredigion. Mae wedi bod yn wythnos orlawn yn Theatr Felin-fach, gyda 15 o glybiau yn camu i’r llwyfan – tri bob nos.
A’r ddynes â’r dasg bwysig yw Janet Aethwy – beirniad yr wythnos! Efallai eich bod yn gyfarwydd â’i hwyneb gan mai hi oedd yn chwarae rhan y Pennaeth yn y gyfres Gwaith/Cartref a’r Arolygydd yn Pobol y Cwm.
Felly, dilynwch y blog hwn am hynt a helynt yr wythnos …