Blog byw gan aelodau CFfI Ceredigion ar noson olaf wythnos #dramacardi – uchafbwyntiau pob noson, y feirniadaeth a’r canlyniadau.
- Clwb Ponstian yn mynd â hi ar ddiwedd yr wythnos, gyda CFfI Llangwyryfon yn ail a Chlwb Llangeitho yn drydydd
- Tri aelod oedd wedi sgriptio’r ddrama orau eleni (Endaf, Carwyn a Cennydd)
- Y beirniad Janet Aethwy yn canmol pob clwb am gystadlu ac yn annog pawb i fynd mas i berfformio eto yn eu cymunedau
Nawr te – fi wedi bod o gwmpas yn ystod yr egwyl i holi’r cwestiwn mowr i gefnogwyr ffyddlon CFfI Ceredigion – “ie, pwy sy’n mynd â hi de?”
Yr ateb?
Wel, mae lot yn canmol clybiau Llangeitho, Pontsian a Llangwyryfon. Ond mae’n debyg ei bod hi’n werth rhoi punt fach ar Felinfach, sydd wedi mentro mas o fyd y comedi a’r ffars i gyflwyno drama “siriys”!
Cawn weld… dim ond barn un beirniad sy’n cyfri ar ddiwedd y dydd!
Wedi mwynhau drama ola' fi gyda chlwb @CFfIPontsian mas draw! O'r sgwennu yn Tafarn Bach cyn y Nadolig, ir ymarferion, a'r 'debut' heno.
Hefyd, shout out i @EndafGriffiths2 am rhewi mor llonydd yn y lluniau 'ma. Fel cardboard cut out.#DramaCardi pic.twitter.com/xgecxsmZYa
— Carwyn Blayney (@CarwynBlayney) February 21, 2020
Dyma Endaf Griffiths, Cennydd Jones a Carwyn Blayney, awduron y ddrama yntrafod sut aeth hi:
Y Clybiau olaf i gystadlu oedd Pontsian, Llanwenog a Tal-y-bont.
Uchafbwyntiau nos Iau.
Yn cloi nos Iau oedd Clwb Llanddewi Brefi.
Yn ail ar y llwyfan nos Iau oedd Lledrod yn perfformio Diwrnod y Capten. Diwrnod prysur i’r prif gymeriad ‘Harri Jenkins’ rhwng chwarae golff, siopa a bod yn dacsi!
Y Clwb cynta i gystadlu nos Iau oedd Felinfach.Dyma nhw wrthi’n ymarfer eu darn, Y Tad a’r Mab!
Ar y nos Iau bu Clybiau Felinfach, Lledrod a Llanddewi Brefi yn cystadlu.
Ry’n ni ’di pasio hanner ffordd, gydag uchafbwyntiau nos Iau a nos Wener i ddod.
Arhoswch gyda ni am fwy o luniau, fideos a chyfweliadau!