Blog byw gan aelodau CFfI Ceredigion ar noson olaf wythnos #dramacardi – uchafbwyntiau pob noson, y feirniadaeth a’r canlyniadau.
- Clwb Ponstian yn mynd â hi ar ddiwedd yr wythnos, gyda CFfI Llangwyryfon yn ail a Chlwb Llangeitho yn drydydd
- Tri aelod oedd wedi sgriptio’r ddrama orau eleni (Endaf, Carwyn a Cennydd)
- Y beirniad Janet Aethwy yn canmol pob clwb am gystadlu ac yn annog pawb i fynd mas i berfformio eto yn eu cymunedau
Os am wylio’r feirniadaeth yn cael ei thraddori, ewch i Facebook Live CFfI Ceredigion yma –
Posted by Cffi Ceredigion Ceredigion Yfc on Friday, 21 February 2020
Co ni – pawb yn barod i’r feirniadaeth!
Tra bo chi’n aros ? – os chi’n byw unrhyw le yng ngogledd Ceredigion neu ardal Llanbed – gallwch CHI rannu eich stori ar eich gwefan fro.
Pwyswch y botwm ‘Ymuno’ ar BroAber360 (gogledd y sir) neu clonc360 (bro Llanbed), dilynwch y 3 cham syml a chlou, a dyna ni!
Gallwch chi osod eich sylwadau ar y blog yma, a chreu eich stori eich hunan rhyw ddiwrnod wrth fynd i Creu > Stori.
Amdani! #GanYBobol
Arhoswch da ni, tra bod y gynulleidfa’n gwylio fideo uchafbwyntiau’r wythnos a thra bod y beirniad yn dod â phethau i fwcwl.
Bydd crynodeb o’r feirniadaeth a’r holl ganlyniadau’n dod atoch chi whap (mewn rhyw 10 munud, â bach o lwc!)
Co ni, 10.45pm yn Theatr Felinfach
Tu fas ->
Tu fewn ->
Chi’n gwbod be sy’n digwydd nawr?
Mae’r gynulleidfa yn yr awditoriwm a’r aelodau a’r cynhyrchwyr yn y Lolfa yn disgwyl am y feirniadaeth gan Janet Aethwy (a’r canlyniadau, wrth gwrs!)
Sgwrs gyda’r ‘Beirniad Answyddogol’ sydd wedi bod ma’n Felinfach pob noson, Mari Jones!
Sgwrs gyda Llywyddion y noson, Gareth a Cerys Lloyd.
Sgwrs gyda un o Stiwardiaid Theatr Felinfach heno.
Tair Cyn-Gadeirydd / Cadeirydd Sir yn trafod yr wythnos maen nhw wedi cael a hel atgofion am eu cyfnod nhw ar y llwyfan.
Pob lwc i griw Talybont sy’n perfformio yn y ddrama heno ?????????????? GŴYL DRAMA // NOS WENER @CeredigionYFC #DramaCardi
— CFfITalybont (@CFfITalybont) February 21, 2020