BLOG BYW: Dramâu CFfI Ceredigion

Megan Lewis
gan Megan Lewis

Blog byw gan aelodau CFfI Ceredigion ar noson olaf wythnos #dramacardi – uchafbwyntiau pob noson, y feirniadaeth a’r canlyniadau.

  • Clwb Ponstian yn mynd â hi ar ddiwedd yr wythnos, gyda CFfI Llangwyryfon yn ail a Chlwb Llangeitho yn drydydd
  • Tri aelod oedd wedi sgriptio’r ddrama orau eleni (Endaf, Carwyn a Cennydd)
  • Y beirniad Janet Aethwy yn canmol pob clwb am gystadlu ac yn annog pawb i fynd mas i berfformio eto yn eu cymunedau

23:11

Llanddeiniol:

Dewis da o ddrama, a pherfformiadau da gan Ifan a Lois

23:10

Clap cynta’r feirniadaeth i awgrym Janet Aethwy, yn annog PAWB i fynd o gwmpas yn chwarae eu dramau cymaint â phosib o weithiau yn ein cymunedau

23:10

Os am wylio’r feirniadaeth yn cael ei thraddori, ewch i Facebook Live CFfI Ceredigion yma –

Posted by Cffi Ceredigion Ceredigion Yfc on Friday, 21 February 2020

23:08

Co ni – pawb yn barod i’r feirniadaeth!

23:05

Tra bo chi’n aros ? – os chi’n byw unrhyw le yng ngogledd Ceredigion neu ardal Llanbed – gallwch CHI rannu eich stori ar eich gwefan fro.

Pwyswch y botwm ‘Ymuno’ ar BroAber360 (gogledd y sir) neu clonc360 (bro Llanbed), dilynwch y 3 cham syml a chlou, a dyna ni!

Gallwch chi osod eich sylwadau ar y blog yma, a chreu eich stori eich hunan rhyw ddiwrnod wrth fynd i Creu > Stori.

Amdani! #GanYBobol

22:56

Arhoswch da ni, tra bod y gynulleidfa’n gwylio fideo uchafbwyntiau’r wythnos a thra bod y beirniad yn dod â phethau i fwcwl.

Bydd crynodeb o’r feirniadaeth a’r holl ganlyniadau’n dod atoch chi whap (mewn rhyw 10 munud, â bach o lwc!)

22:45

Co ni, 10.45pm yn Theatr Felinfach

Tu fas ->

Tu fewn ->

Chi’n gwbod be sy’n digwydd nawr?

Mae’r gynulleidfa yn yr awditoriwm a’r aelodau a’r cynhyrchwyr yn y Lolfa yn disgwyl am y feirniadaeth gan Janet Aethwy (a’r canlyniadau, wrth gwrs!)

22:37

Sgwrs gyda’r ‘Beirniad Answyddogol’ sydd wedi bod ma’n Felinfach pob noson, Mari Jones!

 

22:35

Sgwrs gyda Llywyddion y noson, Gareth a Cerys Lloyd.

 

22:33

Sgwrs gyda un o Stiwardiaid Theatr Felinfach heno.