Blog byw gan aelodau CFfI Ceredigion ar noson olaf wythnos #dramacardi – uchafbwyntiau pob noson, y feirniadaeth a’r canlyniadau.
- Clwb Ponstian yn mynd â hi ar ddiwedd yr wythnos, gyda CFfI Llangwyryfon yn ail a Chlwb Llangeitho yn drydydd
- Tri aelod oedd wedi sgriptio’r ddrama orau eleni (Endaf, Carwyn a Cennydd)
- Y beirniad Janet Aethwy yn canmol pob clwb am gystadlu ac yn annog pawb i fynd mas i berfformio eto yn eu cymunedau
Tregaron:
“Mae natur y ddrama bach yn araf ar y dechrau, ond roedd perfformiad bywiog a sparki Cari yn effeithiol. Mi wnes i fwynhau perfformiad Gwion Jones yn arbennig wrth iddo fynd i fwy a mwy o bicil.”
Troed-yr-aur:
“Dewis dewr o ddrama – a’r criw wedi cael hwyl dda iawn arni. Roedd hi’n gweithio orau pan o chi i gyd yn llonyddu ac yn gweithio fel ensemble gyda’ch gilydd. Yr olygfa yn yr hanner tywyllwch yn gweithio’n arbennig.”
Bro’r Dderi:
“Efallai bod hon yn ymddangos fel drama hawdd, ond roedd angen creu tensiwn rhwng y cymeriadau, ac efallai na lwyddwyd bob amser. Ymdrech dda.”
Caerwedros:
“Mi chwerthis i lond fy mol ar berfformiad hynod o liwgar a chellweirys Noa fel yr hen ddyn”
Llangeitho:
“Roedd hwn yn gynhyrchiad slic, di-lol, ond yn dwt o ddramatig.
Y cast wedi’u cyfarwyddo’n fanwl i greu cynhyrchiad â glein arni”
Llanddeiniol:
Dewis da o ddrama, a pherfformiadau da gan Ifan a Lois
Clap cynta’r feirniadaeth i awgrym Janet Aethwy, yn annog PAWB i fynd o gwmpas yn chwarae eu dramau cymaint â phosib o weithiau yn ein cymunedau
Os am wylio’r feirniadaeth yn cael ei thraddori, ewch i Facebook Live CFfI Ceredigion yma –
Posted by Cffi Ceredigion Ceredigion Yfc on Friday, 21 February 2020
Co ni – pawb yn barod i’r feirniadaeth!
Tra bo chi’n aros ? – os chi’n byw unrhyw le yng ngogledd Ceredigion neu ardal Llanbed – gallwch CHI rannu eich stori ar eich gwefan fro.
Pwyswch y botwm ‘Ymuno’ ar BroAber360 (gogledd y sir) neu clonc360 (bro Llanbed), dilynwch y 3 cham syml a chlou, a dyna ni!
Gallwch chi osod eich sylwadau ar y blog yma, a chreu eich stori eich hunan rhyw ddiwrnod wrth fynd i Creu > Stori.
Amdani! #GanYBobol