BLOG BYW: Dramâu CFfI Ceredigion

Megan Lewis
gan Megan Lewis

Blog byw gan aelodau CFfI Ceredigion ar noson olaf wythnos #dramacardi – uchafbwyntiau pob noson, y feirniadaeth a’r canlyniadau.

  • Clwb Ponstian yn mynd â hi ar ddiwedd yr wythnos, gyda CFfI Llangwyryfon yn ail a Chlwb Llangeitho yn drydydd
  • Tri aelod oedd wedi sgriptio’r ddrama orau eleni (Endaf, Carwyn a Cennydd)
  • Y beirniad Janet Aethwy yn canmol pob clwb am gystadlu ac yn annog pawb i fynd mas i berfformio eto yn eu cymunedau

19:24

Posted by Cffi Llangeitho on Tuesday, 18 February 2020

Aelodau Llangeitho yn benderfynol o beidio â cholli eu cardiau aelodaeth

19:21

Posted by Cffi Llangeitho on Tuesday, 18 February 2020

Meirian Morgan yn cystadlu am y tro ola’, a Betsan Gwladys am y tro cynta!

19:18

Clwb Llangeitho oedd nesa nos Lun

19:11

Y cyntaf ar y llwyfan nos Lun, oedd Clwb Llanddeiniol, a fu’n perfformio Rhithweledigaethau Rhyfedd Jemeima. Dyma’r criw wrthi’n ymarfer yn brysur

CFfI Llanddeiniol wrthi’n ymarfer

19:06

Shwmai! Croeso i flog byw CFfI Ceredigion. Mae wedi bod yn wythnos orlawn yn Theatr Felin-fach, gyda 15 o glybiau yn camu i’r llwyfan – tri bob nos.

A’r ddynes â’r dasg bwysig yw Janet Aethwy – beirniad yr wythnos! Efallai eich bod yn gyfarwydd â’i hwyneb gan mai hi oedd yn chwarae rhan y Pennaeth yn y gyfres Gwaith/Cartref a’r Arolygydd yn Pobol y Cwm.

Felly, dilynwch y blog hwn am hynt a helynt yr wythnos …