Betsan yn mentro yn Bow Street

Er gwaethaf heriau’r cyfnod clo, mae merch ifanc o Langwyrfon wedi llwyddo i ddatblygu ei busnes.

gan Betsan Jane Hughes
Gweithdy newydd Betsan

Mae merch ifanc o Langwyrfon, sy’n rhedeg cwmni gwnïo ac addasu dillad, wedi cymryd llam ymlaen yn ddiweddar wrth agor ail weithdy yn un o bentrefi eraill BroAber360, sef Bow Street. Dyma ychydig o hanes Betsan Jane Hughes:

Helô! Fy enw i yw Betsan Jane ac o ddydd i ddydd dwi’n rhedeg fy musnes fy hunan yn dylunio ac adnewyddu dillad. Mae’r cyfnod clo wedi bod yn her enfawr i fy musnes, gan nad oedd unrhyw gymorth ar gael i fusnesau newydd ar y dechrau. Dros nos roedd fy ngwaith wedi dod i ben. Eleni, roedd gen i wisgoedd ar gyfer tua 50 o briodasau i’w haddasu, ac fe wnaeth y gwaith hwnnw stopio dros nos gan fod yn rhaid i’r priodasau hynny gael eu haildrefnu.

Betsan Jane Hughes
Betsan Jane Hughes

Mae wedi bod yn haf gwahanol iawn i’r arfer gan fy mod i fel arfer wrthi’n trial cwblhau 2–3 priodas bob wythnos, a hefyd yn digon prysur gyda digwyddiadau Clybiau Ffermwyr Ifanc. Felly, fe es i ati i drial meddwl beth alla i ei wneud er mwyn cael rhyw fath o incwm yn ystod y cyfnod ansicr hwn. Dwi wastad wedi bod isie creu dillad i blant gan fy mod i wedi mwynhau dylunio casgliad plant i George ASDA pan oeddwn yn y brifysgol.

Felly, es i ati i ddylunio casgliad bychan ar gyfer plant ac oedolion a sefydlu’r label Beti Bwt. I ddechrau, fe wnes i grysau-T â chactws arnyn nhw i ferched, a chrysau-T â thractor arnyn nhw i fechgyn. Fe wnes i hefyd greu legings yn y defnyddiau gwahanol i gyd-fynd â’r topiau ar gyfer y plant. Dwi’n gobeithio datblygu’r label hwn a chreu mwy o gasgliadau unigryw yn y dyfodol agos. Ar gyfer y Nadolig dwi wedi creu casgliad o siwmperi Nadolig i blant ac oedolion. Mae’r casgliad cyfan yn cael ei werthu ar fy ngwefan etsy, ac roedd hyn yn grêt dros y cyfnod clo gan fod pob archeb yn ddigyswllt ac yn saff iawn.

Agor gweithdy newydd yn Bow Street

Betsan Jane Hughes
Y caban yn Llangwyrfon a’r gweithdy newydd yn Bow Street

Ar ôl i’r cyfnod clo ddod i ben fe wnes i’r penderfyniad o weithio’n llawn amser i fi fy hunan. Yn Llangwyryfon, teimlwn fy mod i ychydig allan o’r ffordd i’r cwsmeriaid hynny sy’n byw yn y dref (Aberystwyth) ac  felly penderfynais ddechrau chwilio am le y gallwn agor yn agosach i’r dre cwpwl o ddiwrnodau’r wythnos. Fe welais fod lle ar gael yn Bow Street yn Harddwch Siriol Beauty, gyda digon o le parcio a ddim yn bell o gwbwl o’r dre. Ac ro’n i gwbod bod y safle yma yn grêt ar gyfer y cam nesaf yn fy musnes, i ehangu ychydig. Mi wnes i ystyried edrych o gwmpas y dre, ond gan fod y trethi mor uchel a’r strydoedd ar gau, a pharcio car ddim yn gyfleus o gwbwl ar hyn o bryd, teimlais nad oedd agor ail weithdy yn y dre yn addas.

Ers agor ail weithdy yn Bow Street mae wedi bod yn grêt gweld nifer o wynebau cyfarwydd a nifer o gwsmeriaid newydd hefyd. Mae’r gweithdy yno ar agor bob dydd Mercher o 9yb tan 5yh. Agorais yr ail weithdy am bythefnos, ac yna rhaid oedd cau’r drysau eto ar gyfer yr ail gyfnod clo. Ond er mwyn mynd ’nôl i ychydig o normalrwydd erbyn y Nadolig, y peth cywir i’w wneud oedd cael yr ail cyfnod clo yma.

Cefnogwch fusnesau bach

Nawr, mwy nag erioed, mae’n bwysig cefnogi busnesau bach cefn gwlad. Mae’r cyfnod clo wedi profi hyn wrth i bawb fynd ’nôl i’r hen amser, lle nad oedd dim ond siopau bach ar gael, a dim o’r archfarchnadoedd mawr yma. Wrth siopa’n lleol, ry’ch chi’n gwybod o ble mae’r cynnyrch wedi dod ac mae’r busnes hwnnw wedi gwneud yn siŵr ei fod yn dilyn y camau glendid o’r safon uchaf. Os ydych yn prynu o wefannau mawr fel Amazon, dy’ch chi ddim yn gwybod ble mae’r bocs wedi bod, a thrwy sawl pâr o ddwylo mae wedi bod chwaith. Wrth siopa’n lleol, ry’ch chi’n cefnogi unigolyn neu deulu yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Ewch ati y Dolig hwn i gefnogi busnesau bach cefn gwlad – mae tipyn o amrywiaeth o’r safon uchaf ar gael.

Gallwch ddilyn gwaith Betsan ar ei thudalen Facebook: Betsan Jane Design and Alterations.