Aelod Seneddol Ben-digedig Ceredigion

Ben Lake, AS Ceredigion yn ennill gwobr Dewis y Bobl o Newydd-dyfodiad ymysg Aelodau Seneddol

Mererid
gan Mererid

“Anrhydedd” oedd geiriad Aelod Seneddol Plaid Cymru, Ben Lake, pan dderbyniodd wobr Dewis y Bobl o Aelod Seneddol Newydd-ddyfodiad a gyflwynwyd gan y Patchwork Foundation. Elusen amhleidiol yw’r Patchwork Foundation sy’n canolbwyntio ar hyrwyddo ac annog integreiddio cymunedau difreintiedig a lleiafrifol mewn modd positif yn rhan o ddemocratiaeth a chymdeithas sifil. Dyfarnwyd y wobr yn dilyn pleidlais gyhoeddus.

Dywedodd Ben “Mae derbyn y Wobr hon ar gyfer Dewis y Bobl yn fraint ac yn anrhydedd, ond mae llawer i’w wneud o hyd i sicrhau bod pryderon pob cymuned yn cael eu lleisio yn y Senedd. I ormod o bobl, gall gwleidyddiaeth yn San Steffan ymddangos yn bell – ac yn aml wedi ei datgysylltu – oddi wrth y materion sy’n eu poeni fwyaf. Rwy’n ei ystyried felly yn ddyletswydd arnaf i ymgysylltu â gwahanol grwpiau oedran a chymunedau i wneud y broses wleidyddol yn fwy hygyrch ac ystyrlon i’w bywydau beunyddiol.

“Mae’n fraint gwasanaethu cymunedau Ceredigion, a’r anrhydedd fwyaf oll yw gallu gweithio ar eu rhan i sicrhau bod eu buddiannau’n cael eu cynrychioli yn y Senedd.”

Cynyddodd Ben ei fwyafrif wrth adennill sedd Ceredigion yn Etholiad Cyffredinol Rhagfyr 2019, yn dilyn cyfnod yn y Senedd ers Mehefin 2017.

Ben Lake yw aelod seneddol ieuengaf i gynrychioli etholaeth yng Nghymru. Mae’n aelod o’r Pwyllgor Materion Cymreig, yn ogystal â gweithredu fel llefarydd ar ran Plaid Cymru ar nifer o bortffolios gan gynnwys y Trysorlys, Iechyd a’r Amgylchedd a Materion Gwledig.

Fel rhan o’i enwebiad, mae ei waith gyda’r achosion canlynol wedi’u hamlygu – cefnogi pobl anabl, mynd i’r afael ag anghydraddoldebau a dod â chymunedau ynghyd – gan gynnwys cynnal gweithdy ‘Amser i Siarad’ oedd wedi’i anelu at ferched ifanc, a chefnogi ymgyrch llawr gwlad WASPI (Menywod yn Erbyn Anghyfiawnder Pensiwn y Wladwriaeth) yng Ngheredigion.

Yn dilyn etholiad 2019, cyfeiriodd y BBC at Ben fel un o’r Ten lesser-known MPs to keep an eye on.

Dyma lun o Ben cyn y coronafeirws, ond rwy’n siwr fod pawb yng Ngheredigion yn dweud “Llongyfarchiadau mawr” a mwynha’r diod.