Aber a’r teulu

Mae tref Aberystwyth, lle mae’n byw ers cyrraedd y dref yn fyfyriwr yn 2001, yn ysbrydoliaeth fawr iddo. Mae’r dref i’w gweld mewn sawl cerdd yn y casgliad: fel ‘AA – Aber-ddiblastig Anhysbys’, lle mae’r bardd yn galw ar bobol y dref i dorri lawr ar eu defnydd o blastig; ac yn ei gerdd farwnad i Eifion Gwynne, trydanwr a chapten tîm rygbi hoffus a fu farw mewn damwain yn 2016:

‘I’r dre fu’i gartref i gyd – ac i’r bois

Ar gae’r bêl bob munud

Fe rôi Eifion wefr hefyd,

I bawb fe oleuai’r byd…’

“Dw i wedi ymsefydlu yma bellach, wedi priodi Rhiannon, sydd o Lanfarian, mae gen i fab, Llew, ac r’yn ni’n byw yn y dre,” meddai’r bardd. “Dw i’n teimlo bod y lle yma wedi fy mabwysiadu i.”

Mae ei deulu yn wasgaredig – mae teulu ei fam a’i dad o ardal y gogledd ddwyrain, ond cafodd ei eni yng Nghaerdydd, a’i fagu yn Sir Gaerfyrddin. “Mae Aberystwyth yn y canol,” meddai, “yn rhyw fath o fy siwtio i.”

Darllenwch gyfweliad llawn Eurig Salisbury yng nghylchgrawn golwg neu ar golwg+