Sut mae’r band eang yn eich ardal chi?

Cyngor ar sut i wella eich band eang i’ch caniatau i barhau i weithio o adref, ac aros adref.

Mererid
gan Mererid

Gyda chynifer o blant a phobl yn gweithio o adref, mae hyn yn rhoi pwysau sylweddol ar y rhwydwaith band eang. Mae ardaloedd gwledig o Ogledd Ceredigion, a rhai ardaloedd trefol fel y Buarth wedi dioddef problemau arafwch pellach heddiw, gan ei gwneud yn anodd iawn i weithio. Cofiwch adrodd i’ch darparwr pan fydd hynny yn digwydd gan y byddant yn gallu ardaloedd problemus. Gallwch hefyd weld a oes problem yn eich ardal chi https://my.bt.com/consumerFaultTracking/public/faults/tracking.do?pageId=31

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cyhoeddi cyngor ar sut y gallwch wella eich band eang, yn arbennig, os ydych yn weithiwr allweddol neu lle gall eich cysylltiad greu problemau gweithio o adref yn effeithiol yn y cyfnod yma. Maent yn awgrymu y dylai unrhyw un a phroblemau i gysylltu i weld os allwn helpu ar digidol@ceredigion.gov.uk

1: Pa wasanaeth band eang allwch chi ei dderbyn?

Mae’n werth edrych os yw band eang ffibr ar gael i chi yma. Efallai fod band eang mwy cyflym ar gael i chi – ond ni ddaw yn awtomatig. Os ydi band eang ffibr yn opsiwn i chi, trafodwch gyda Darparwr Gwasanaeth Rhyngrwyd (ISP) i weld pa becynnau sydd ar gael i wella’ch cyflymder.

2: Asesu eich opsiynau

Os nad ydych yn medru derbyn band eang cyflym iawn drwy ffibr, gall fod opsiynau eraill ar gael i dderbyn cyflymder uwch. Gall y rhain gynnwys – cysylltiad diwifr sefydlog, cysylltiad symudol/4G neu gysylltiad lloeren. Am ragor o wybodaeth am dechnolegau eraill fel hyn, ewch i wefan Llywodraeth Cymru yma.

3: Darganfod pa gyflymder rydych yn ei dderbyn nawr

Gallwch redeg prawf cyflymder gan ddefnyddio profwr band eang a symudol swyddogol Ofcom, bydd hwn yn dweud wrthych ba gyflymder rydych yn ei gael yn awr. Gallwch lawrlwytho ar ei ffon symudol (chwiliwch “Ofcom” yn yr Apple App Store neu ar Google Play) neu ar eich cyfrifiadur.

4: Gwneud y defnydd gorau o’ch band llydan

Gallwch wneud sawl peth i sicrhau fod eich band eang yn gweithio i’w llawn botensial. Gallwch uwchraddio eich llwybrydd (router), symud y llwybrydd (router) oddi-wrth ddyfeisiau electronig eraill, lleihau’r nifer o ddyfeisiau sydd wedi cysylltu, defnyddio gwifren ethernet i gysylltu yn syth i’r llwybrydd a hefyd clirio stôr (cache) eich porwr gwe. Ceir rhagor o wybodaeth ar y camau allwch ei gymryd adref yma.

5: Defnyddio i’w llawn botensial

Os ydych yn edrych i symud eich busnes ar-lein a chreu “busnes fel arfer” newydd neu gynnal eich brand yn lleol (tan daw pethau i drefn arferol), mae gan Gyflymu Busnes Cymru nifer o gyrsiau a webinarau ar gyfer busnesau o bob maint ac angen. Ceir rhagor o wybodaeth yma.