Awduron yn diddanu yn Felinfach

Mynychodd nifer o blant a phobl ifanc Gogledd Ceredigion ddiwrnod arbennig yn Felinfach.

Mererid
gan Mererid

Mynychodd nifer o blant a phobl ifanc Gogledd Ceredigion ddiwrnod arbennig yn Felin-fach ar ddydd Mercher, 4ydd o Fawrth 2020. Roedd hwn yn rhan o ddathliad a drefnwyd gan Gyngor Llyfrau Cymru ar gyfer Diwrnod y Llyfr a gynhelir ar y 5ed o Fawrth 2020.

Ymysg yr awduron oedd yn diddanu roedd Casia Wiliam (cyn-Fardd Plant), yr arlunydd Huw Aaron, yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd, Aneirin Karadog ac Elidir Jones.  Y bwriad oedd sbarduno’r plant i ddod i ddysgu am yr amrywiaeth eang o lyfrau sydd ar gael, a’i hysbrydoli i fynd ati i ysgrifennu a bod yn greadigol.

Mae croeso mawr i bawb gymryd rhan yng ngweithgareddau Diwrnod y Llyfr drwy rannu stori, neu gyflwyno llyfr i’ch ffrind neu’ch teulu. Mae adrodd a rhannu straeon hefyd yn thema bwysig ar gyfer Diwrnod y Llyfr eleni gydag ymgyrch ledled Prydain i lansio ‘chwyldro darllen’ drwy rannu miliwn o straeon. Gall unrhyw un gymryd rhan yn yr ymgyrch: teuluoedd, ysgolion, siopau llyfrau a llyfrgelloedd, meithrinfeydd, ac ati. Ar ôl cofrestru ar worldbookday.com/share-a-million-stories, mae modd dod o hyd i bopeth sydd ei angen, gan gynnwys canllawiau, cwestiynau cyffredin ac awgrymiadau er mwyn rhannu stori.

I nodi Diwrnod y Llyfr 2020, mae’r Cyngor Llyfrau wedi cyhoeddi y bydd dau lyfr arbennig i blant ar gael i’w prynu am £1 yn unig, neu gall plant gyfnewid eu tocyn £1 Diwrnod y Llyfr am un o’r cyfrolau. Bydd fersiynau hygyrch o’r llyfrau hefyd ar gael, gan gynnwys fersiynau braille, print bras a sain, diolch i gefnogaeth yr RNIB.

Mae Darllen gyda Cyw gan Anni Llŷn, a gyhoeddwyd gan y Lolfa, yn dilyn hanesion y cymeriad poblogaidd Cyw a’i ffrindiau, ac mae’r llyfr wedi’i anelu at ddarllenwyr iau a theuluoedd sy’n dysgu Cymraeg gyda’u plant.

Mae Stori Cymru – Iaith a Gwaith, a ysgrifennwyd gan yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd ac a gyhoeddwyd gan Wasg Carreg Gwalch, yn adrodd hanes Cymru a gwaith ei phobl drwy gyfrwng stori, llun a chân.

Fel rhan o’r dathliadau, mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi lansio gêm gardiau Top Trumps arbennig i blant sy’n cynnwys cymeriadau o lyfrau Cymraeg hen a newydd. Bydd y cardiau’n siŵr o ddod â gwên i wynebau rhieni hefyd wrth weld rhai o hoff gymeriadau eu plentyndod yn y gêm megis Sam Tân a Siôn Blewyn Coch.