Dyn yn cael ei ryddhau ar fechnïaeth

Mae’r heddlu dal yn awyddus i glywed gan unrhyw dystion.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
Tafarn Y Llew Du ar Heol y Bont

Yn dilyn apêl gan Heddlu Dyfed Powys, mae dyn a gafodd ei arestio dydd Mawrth (7 Ionawr) bellach wedi’i ryddhau ar fechnïaeth.

Cafwyd hyd i ddyn 35 oed wedi’i anafu yn ddifrifol ar Heol y Bont yn y dre tua 9yh nos Sadwrn (4 Ionawr).

Nid yw’r heddlu yn chwilio am neb arall yn gysylltiedig â’r digwyddiad, ond maent yn dal yn awyddus i glywed gan unrhyw dystion.

 

Apêl am wybodaeth

Mae’r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth gysylltu â nhw, naill ai drwy ebost: contactcentre@dyfed-powys.pnn.police.uk neu drwy ffonio 101.

Rhif achos: DP-20200104-291.

Mae’r heddlu hefyd yn annog unrhyw un a oedd yn gyrru trwy’r ardal rhwng 8pm a 9pm sydd â lluniau dash cam o du allan i Dafarn y Llew Du, i gysylltu â nhw.