£100 arall ar gael i’w ennill yn Sioe Tal-y-bont

Dwy gystadleuaeth ffotograffiaeth arbennig â gwobr o £100 yr un yn Sioe Tal-y-bont ar y we

Betsan Siencyn
gan Betsan Siencyn
Gwartheg

Dim ond dau ddiwrnod sydd ar ôl i gyflwyno’ch cynigion ar gyfer cystadlaethau’r sioe – ydych chi wedi cystadlu eto? Efallai eich bod wedi darllen erthygl flaenorol am y cyfle i ennill £100 drwy dynnu llun o Wartheg Duon Cymreig, ond gallwch hefyd roi cynnig ar dynnu llun unrhyw frid arall, gan gynnwys gwartheg croes, yn eu cynefin.

Does dim rhaid i chi fod yn berchen ar y gwartheg yn y lluniau. Felly, beth am fynd am dro dros y penwythnos i edrych am rai pert! Gall unrhyw un yn unrhyw le gystadlu hefyd, felly perswadiwch eich ffrindiau a theulu mewn gwledydd tramor i roi cynnig arni i weld pa mor bell y gall y sioe gyrraedd.

Boed yn wartheg yr Ucheldir, Swydd Henffordd, Holstein neu’n wartheg Angus, rydym ni eisiau eu gweld! Dyma’r gystadleuaeth fwyaf poblogaidd hyd yn hyn, felly peidiwch â’i gadael yn rhy hwyr cyn rhoi cynnig arni.

Ewch i’n gwefan neu ein tudalen Facebook am fwy o wybodaeth ar sut i gystadlu erbyn HANNER NOS, NOS LUN, 17 AWST!