Arad Goch yn parhau i greu

Y “cau mawr” yn her i Arad Goch – gyda canlyniadau diddorol

Mererid
gan Mererid
Arad Goch

Mae’r ‘cau lawr’ wedi bod yn her i Arad Goch fel i bawb arall, ac maent yn gweld eisiau cymuned brysur a chyffrous y ganolfan yn Aberystwyth, yn arbennig ar ôl y gwaith ardderchog a wnaethpwyd ar yr adeilad llynedd.

Cafodd nifer o ddigwyddiadau pwysig eu canslo, ond maent yn parhau i greu. Bydd ambell i beth o’r archif i’w gweld ar lein (athrawon drama, byddwch yn barod!) a bydd adnoddau a gweithgareddau i blant yn cael eu rhyddhau dros yr wythnosau nesaf (rhieni, byddwch yn barod!). Mae Arad Goch yn cydweithio gyda chwmnïau mewn gwledydd eraill i gynnal gŵyl theatr ryngwladol ar-lein gyda phaneli trafod o bobl ifanc, gan gynnwys rhai o’n pobl ifanc lleol ni. aradgoch.cymru

Ac mae Jeremy a Mari wrthi yn gweithio gydag aelodau’n clwb drama blAGur i greu dau fideo cartŵn wedi’u seilio ar chwedlau o’r Hen Roeg a Gwlad Pwyl. Fe ddaeth un o’r sgriptiau, sef DUWIES Y TANFYD, gan Rhys McInnes o Gaerdydd. Mae Mabon Phillips wrthi yn creu lluniau cartŵn ar gyfer golygfeydd y sgript ac mae rhai o’r actorion ifanc – Jack, Twm, Pwyll, Enid, Llew, Moi, Tomos a Beca – wedi bod yn ymarfer a recordio lleisiau’r cymeriadau drwy Zoom.

Ar yr un pryd, mae Mari yn gweithio gyda grŵp arall o’r aelodau i greu sgript a lluniau ar sail chwedl o Wlad Pwyl am ferch o’r enw Zwzia, sydd i’w gweld yn llyfr hyfryd Caryl Lewis STRAEON GORAU’R BYD. Bydd y ddau fideo i’w gweld drwy wefan y cwmni cyn bo hir.

Buodd aelodau blAGur yn brysur iawn y tymor diwethaf yn cynhyrchu’r ddrama Y CNOCWYR; bwriadwyd ei dangos eto yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron eleni – ond gan na fydd hynny’n bosib dyma rai lluniau.