Annog myfyrwyr i gael prawf Covid-19 cyn dychwelyd adref am y Nadolig

Bydd cael prawf cyn Rhagfyr 9 yn sicrhau digon o amser i unrhyw un sy’n profi’n bositif i hunanynysu

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
Golwg360

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi annog myfyrwyr sy’n bwriadu teithio i Geredigion dros yr ŵyl i archebu prawf coronafeirws – os oes ganddynt symptomau neu beidio.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda phrifysgolion Cymru i alluogi myfyrwyr a staff sydd heb symptomau i gael prawf fel rhan o raglen brofi beilot.

Bydd hynny’n golygu defnyddio dyfais llif ochrol, sy’n wahanol i brofion ar gyfer pobl sydd â symptomau.

Mae gofyn i’r myfyrwyr gael y prawf hwn cyn Rhagfyr 9, 2020.

Bydd hynny’n gadael digon o amser i unrhyw un sy’n profi’n bositif i hunanynysu a gwella, cyn dychwelyd adref ar gyfer y Nadolig.

Canlyniadau positif

Bydd canlyniad positif yn golygu y bydd rhaid i fyfyrwyr hunanynysu yn eu cyfeiriad yn ystod y tymor am 10 diwrnod a dilyn y canllawiau hunanynysu.

Bydd hefyd angen cael prawf Covid-19 gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol er mwyn cadarnhau’r canlyniad, a hynny trwy ymweld â gwefan Llywodraeth Cymru neu trwy ffonio 119.

Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol y Drindod Dewi Sant yn rhan o’r cynllun

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi eu bod yn cymryd rhan yn y cynllun, gyda’r profion ar gael rhwng 30 Tachwedd 2020 a 7 Rhagfyr 2020.

Mae Prifysgol y Drindod Dewi Sant, sydd â champws yn Llanbedr Pont Steffan, hefyd wedi cyhoeddi fod profion ar gyfer pobl nad oes ganddynt symptomau, rhwng 30 Tachwedd 2020 a 11 Rhagfyr 2020.

Bydd angen i fyfyrwyr wirio os yw prifysgolion eraill yn cynnig profion o’r fath.

Bod yn gyfrifol

Mae’r cyngor hefyd wedi annog myfyrwyr i fod yn gyfrifol a chymryd gofal cyn dychwelyd ac unwaith y byddant adref, drwy gyfyngu ar eu cyswllt cymdeithasol cymaint â phosibl.

Os bydd y cynllun yn llwyddiant, bydd modd cynnal profion tebyg ym mis Ionawr wrth i fyfyrwyr ddychwelyd i’r sir.

Mae’r canllawiau ar gyfer myfyrwyr ar gael i’w darllen yn llawn ar wefan Llywodraeth Cymru.

Mae’r holl wybodaeth, y cyngor a’r cymorth diweddaraf mewn perthynas â’r coronafeirws yng Ngheredigion ar gael ar wefan Cyngor Sir Ceredigion.