Ailagor y llwybr rhwng Aber a Borth

Cyngor Ceredigion yn codi gwaharddiadau ar gerdded

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
Aberdare Blog (CC BY 3.0)

Rhan o Lwybr Arfordir Ceredigion ger Clarach

Mae’r rhannau o Lwybr Arfordir Ceredigion rhwng Aberystwyth a Borth bellach wedi agor.

Fe gyhoeddodd Cyngor Ceredigion ddydd Llun – Gorffennaf 20 – eu bod yn codi gwaharddiad ar ddau hyd o’r llwybr, rhwng Aberystwyth a Clarach a Clarach a Borth.

Ond mae’r llwybr wedi ei wyro o hyd yn ardal Wallog, oherwydd tirlithriad.

Mae’r Cyngor hefyd wedi cyhoeddi canllawiau ynghylch defnyddio’r llwybr. Mae’r rheiny’n cynnwys:

  • Bod yn ofalus wrth fynd heibio i bobl eraill mewn mannau lle mae’r llwybr yn gulach na 2 fetr.
  • Defnyddio hylif diheintio dwylo wrth drin gatiau a sticlau.

Roedd rhannau o’r llwybr wedi eu cau ers dechrau mis Ebrill yn fuan wedi sefydlu’r cyfnod clo.