gan
Ohebydd Golwg360
Mae’r rhannau o Lwybr Arfordir Ceredigion rhwng Aberystwyth a Borth bellach wedi agor.
Fe gyhoeddodd Cyngor Ceredigion ddydd Llun – Gorffennaf 20 – eu bod yn codi gwaharddiad ar ddau hyd o’r llwybr, rhwng Aberystwyth a Clarach a Clarach a Borth.
Ond mae’r llwybr wedi ei wyro o hyd yn ardal Wallog, oherwydd tirlithriad.
Mae’r Cyngor hefyd wedi cyhoeddi canllawiau ynghylch defnyddio’r llwybr. Mae’r rheiny’n cynnwys:
- Bod yn ofalus wrth fynd heibio i bobl eraill mewn mannau lle mae’r llwybr yn gulach na 2 fetr.
- Defnyddio hylif diheintio dwylo wrth drin gatiau a sticlau.
Roedd rhannau o’r llwybr wedi eu cau ers dechrau mis Ebrill yn fuan wedi sefydlu’r cyfnod clo.