Agor ceisiadau Grant Celfyddydol er cof am Anna Evans

Y gronfa wedi ei sefydlu er mwyn parhau a’r gwaith wnaeth Anna gyda’r gymuned.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae cronfa a sefydlwyd er cof am Anna Evans, oedd yn gweithio fel arlunydd llawrydd a gydag Amgueddfa Ceredigion, wedi agor ceisiadau i artistiaid celfyddydol lleol.

Bu farw Anna Roselyn Evans, 46, o Aberystwyth, mewn digwyddiad ar faes gwersylla ger Bethel, Caernarfon ym mis Awst llynedd.

Mae’r gronfa yn blaenoriaethu ariannu celfyddydau cymunedol i bobl o bob oed yng Ngheredigion.

“Parhau a’r gwaith a wnaeth Anna yn y gymuned”

“Dechreuon ni godi arian er cof am Anna y llynedd er mwyn caniatáu cyllid i artistiaid ac ymarferwyr celfyddydol lleol i barhau â’r gwaith a wnaeth Anna gyda’r gymuned,” meddai llefarydd ar ran y Gronfa.

“Fe wnaethon ni osod nod o £5000 i ddechrau ond cawson ein llethu pan wnaethon ni fwy na dyblu ein targed.”

“Dangosodd y gefnogaeth cawsom gan fusnesau ac unigolion lleol pa mor bwysig, nid yn unig oedd Anna, ond hefyd y gwaith yr oedd yn ei wneud.”

Agor y ceisiadau i gymunedau yng Ngheredigion

“Rydym bellach mewn sefyllfa i agor ceisiadau am Grant Gymunedol Gelfyddydol Anna Evans i unrhyw artistiaid ac ymarferwyr celfyddydol lleol sydd gyda phrosiectau mewn golwg rhwng Mai 2021 a Mawrth 2022, ac sy’n canolbwyntio ar ymgysylltu a chynnwys cymuned Ceredigion mewn unrhyw faes o’r celfyddydau.

“Mae swm o £5,000 ar gael ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus.”

Mae modd lawr lwytho’r ffurflenni cais yn ogystal â’r meini prawf sy’n cael eu defnyddio i werthuso’r cymwysiadau fan hyn.

“Gwnewch y peth nesa’ sy’n ddiddorol” – Anna Evans