Agor canolfan brofi cerdded i mewn parhaol yn Aberystwyth

Bydd y ganolfan yn ddefnyddiol i fyfyrwyr a’r rhai sydd heb gerbyd.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
Golwg360

Mae canolfan brofi cerdded i mewn parhaol wedi agor yn Aberystwyth.

Mae’r ganolfan wedi ei lleoli tu mewn i hen adeilad Meithrinfa Padarn, (y tu ôl i, ond heb fod yn gysylltiedig â, Medyddfa Padarn), ar Ffordd Penglais.

Mae’r Cyngor wedi annog pobl leol i osgoi defnyddio maes parcio’r feithrinfa gyfagos.

Maent hefyd am atgoffa bod rhaid i bawb sy’n mynychu’r ganolfan wisgo gorchudd wyneb.

“Cyfleusterau cerdded i mewn yn bwysig iawn”

Rydym yn falch iawn ein bod wedi sicrhau’r LTS (Salfe Profi Leol) hwn ar gyfer pobl Aberystwyth,” meddai Alison Shakeshaft, Cyfarwyddwr Therapïau a Gwyddor Iechyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

“Nid oes gan lawer o drigolion y dref, gan gynnwys myfyrwyr, eu cerbyd preifat eu hunain er mwyn cael mynediad at gyfleusterau profi gyrru drwodd, felly mae’r opsiwn o gyfleuster cerdded i mewn yn bwysig iawn.

“Mae hwn yn gyfnod heriol ac rwy’n annog pawb i aros yn wyliadwrus a dilyn y rheolau, gan gynnwys gwisgo gorchuddion wyneb lle bo angen, cynnal pellter cymdeithasol, golchi dwylo’n rheolaidd, neu ddefnyddio glanweithydd dwylo os nad yw golchi dwylo yn bosibl.”

Yn y cyfamser, mae’r cyfleuster gyrru drwodd yng Nghanolfan Rheidol wedi’i adleoli i Aberteifi, er mewn ymateb i gynnydd mewn achosion yn yr ardal honno.

Mae’r Cyngor wedi dweud na fydd y symudiad hwn yn effeithio ar drigolion Aberystwyth, gan fod digon o gapasiti profi yn y safle profi lleol.

Mae’n ofynnol i fyfyrwyr prifysgol sydd â symptomau’r feirws i ddarparu eu cyfeiriad lleol yn Aberystwyth wrth archebu prawf.

Mae’r Cyngor yn annog unrhyw un sydd â symptomau o’r feirws i archebu prawf cyn gynted â phosibl.