O’r cerddorfeydd yng Nghaerdydd i’r corau yn Nhregaron!

Dod i adnabod arweinydd Côr yr Eisteddfod 2020 ychydig yn well

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
Rhys Taylor

Gyda prin fisoedd i fynd cyn y bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yng Ngheredigion, mae BroAber wedi bachu ar y cyfle i holi perfedd arweinydd Côr Eisteddfod 2020, Rhys Taylor er mwyn dod i’w adnabod yn well.

Enw llawn? Rhys Taylor

Oedran?  37

Teitl Swydd? Cerddor Llawrydd

O ble wyt ti’n wreiddiol? Aberystwyth

Addysg? Ysgol Gymraeg Aberystwyth, Ysgol Gyfun Penweddig a’r ‘Royal Northern College of Music’.

Ychydig am dy yrfa? Dechreues i chware’r clarinét yn 8 oed a dwi heb edrych nôl ers ’ny. Dwi’n ymddiddori a gweithio mewn amrywiaeth o gerddoriaeth gan gynnwys cerddorfeydd, opera, sioeau cerdd, teledu a radio a bandiau jazz. Dwi hefyd yn cyfansoddi a threfnu cerddoriaeth ac yn gyfarwyddwr cerdd. Ar hyn o bryd dwi’n gweithio gyda cherddorfa genedlaethol y BBC ac Opera Genedlaethol Cymru. Hefyd dwi’n paratoi ar gyfer wythnos ‘bonkers’ o waith yn Eisteddfod Genedlaethol Tregaron, a fydd yn cynnwys beirniadu, perfformio ac arwain cyngerdd Côr yr Eisteddfod.

Ychydig amdanat ti a dy deulu bach newydd? Ganwyd Cara Non ym mis Awst 2019, felly mae bywyd wedi newid yn llwyr i Gwawr, fy ngwraig a fi. Mae hi’n flonden fach â llygaid glas ac i weld yn joio clywed canu yn fwy na dim. Dyw hi ddim yn ‘fussed’ gyda cherddoriaeth offerynnol…’awkward’…!

Ble ydych chi’n byw nawr? Ni’n byw yn Grangetown, Caerdydd ers 6 mlynedd ac wrth ein boddau yn y brif ddinas.

Beth neu pwy a wnaeth dy ysbrydoli di i barhau a cherddoriaeth fel gyrfa? Dwi bob amser yn cyfeirio at Mam fel y dylanwad mwyaf arna i. Yn anffodus fe gollon ni Mam yn 2003 ond bob amser dwi’n teimlo ychydig yn swrth, neu ddiffyg ysbrydoliaeth dwi’n meddwl “beth fydde Mam yn ‘weud?” Ac mae’r diolch i gyd iddi hi am gadw fi i ymarfer y clarinét pan o’n i’n iau. Doeddwn i ddim yn ymarferwr da o gwbl! Llawer gwell oedd gen i fod  allan yn cicio pêl, reidio beic neu ddringo coed!

Sut ddaeth pethau i fod mai ti fydd arweinydd Côr yr Eisteddfod 2020? Dwi wedi gweithio llawer gyda’r Eisteddfod dros y blynyddoedd, fel perfformiwr, trefnydd cerddoriaeth. Ac yn Eisteddfod Genedlaethol y Feni,  2013 ces i fy swydd gyntaf fel Cyfarwyddwr Cerdd Cyngerdd Côr Big Band yr Eisteddfod. Roedd y profiad yna yn un bythgofiadwy, o nodyn cyntaf amheus ymarfer cyntaf y côr, i gord olaf y gyngerdd yn y pafiliwn. Nai fyth anghofio hynna! Dwi’n gobeithio mai dyma oedd y foment rhoddodd yr Eisteddfod y ‘trust’ ynddo i a dwi’n hynod o ddiolchgar a balch iddyn nhw ofyn i fi eto eleni, yn enwedig gan fod yr Eisteddfod nol yn fy annwyl Geredigion.

Dy hoff beth am y cyfanwaith? Cael gweithio gyda chôr amhroffesiynol / cymunedol mewn steil newydd (pop).

Dy hoff beth am arwain? Clywed ffrwyth llafur ymarferion yn dod ata i fel ton o harmonis pwerus a gweld y côr yn mwynhau.

Dy gas beth am arwain?  Bod o dan y ‘spotlight’.

Pam wyt ti’n meddwl fod pobl Ceredigion wedi cyffroi cymaint fod yr Eisteddfod yn dod yma?  Mae sawl blwyddyn wedi pasio ers ’92! Dwi’n gwybod faint mae’r Eisteddfod yn ei olygu i bobol y sir a dwi’n gwybod bod pawb yn gyffrous i weithio mor galed i geisio cynnal yr Eisteddfod orau hyd yn hyn. Dwi’n gwybod o brofiad fod ymroddiad a gwaith caled pobol ifanc ac oedolion Ceredigion yn syfrdanol a dwi’n siŵr fyddan nhw yn hoelio hi ‘lenni!

Ar wahan i gyngerdd y Côr wrth gwrs, beth wyt ti’n edrych ymlaen amdano fwyaf yn Eisteddfod Tregaron? Gweld a chlywed pobol yr ardal yn ymfalchïo yn yr ŵyl, a hefyd bwmpo miwn i’r un bobol dwi’n eu gweld unwaith y flwyddyn ar faes yr Eisteddfod, boed yn ffrindiau, cydweithwyr neu wynebau cyfarwydd y cyhoedd a gweithwyr stondinau!

Pa gig fydd yn rhaid i ti ei gweld yn ystod yr wythnos?  O edrych ar fy amserlen, dwi ddim yn sicr a fydd amser gyda fi weld unrhyw gig…! Ond dwi yn edrych ymlaen at obeithio gweld y gigs llai ‘ffrinj’ ym mhebyll llai a thyllau a chorneli amrywiol y maes!

 

Dewis un! (Ychydig o hwyl)

Y Babell Lên neu’r Ty Gwerin?

Y Babell Lên (‘guilty pleasure’!)

Beirniadu Rhagbrofion neu’r Pafiliwn?

Rhagbrofion

Côr neu Gerddorfa?

Ouch…!!!!! Côoooor….!!!???!!!

Aber neu Dregaron? (Gofalus!)

Aber am byth. Sori Tregaron!