Aberystwyth yn troi’n las i ddiolch i weithwyr y GIG

Cyngor Sir Ceredigion yn diolch i holl weithwyr y rheng flaen am eu gwaith.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Nos Iau (Ebrill 2) goleuwyd rhai o adeiladau Aberystwyth yn las i ddiolch i weithwyr y Gwasanaeth Iechyd a Bwrdd Iechyd Hywel Dda am eu gwaith yn ystod argyfwng y Coronafeirws.

Ar dudalen Facebook Cyngor Sir Ceredigion diolchodd y cyngor i holl weithwyr y rheng flaen am eu gwaith yn y cyfnod hwn:

“I bawb sy’n darparu gofal yn y gymuned, gweithwyr cartrefi gofal, gofalwyr, grwpiau gwirfoddol, unigolion sy’n gofalu am blant, ateb y ffôn, glanhau, paratoi bwyd, cefnogi eraill, hyfforddi staff, casglu gwastraff, cynnal a chadw adeiladau, gweithio o adre neu’n hunan ynysu i gadw eraill yn ddiogel – diolch, rydych chi i gyd yn anhygoel.”

Hen Neuadd y Dref, Aberystwyth wedi ei oleuo yn las – Llun gan Gyngor Ceredigion
Bandstand Aberystwyth wedi ei oleuo yn las – Llun gan Gyngor Ceredigion
Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi ei oleuo yn las – Llun gan Llyfrgell Genedlaethol Cymru