5,000 yn arwyddo deiseb i greu corff cyffredin i ddysgu hanes Cymru

Elfed Jones yn fodlon ymprydio i sicrhau fod hanes Cymru yn cael ei ddysgu mewn ysgolion yng Nghymru

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Llun gan Elfed Jones

Mae deiseb gan Elfed Jones sydd yn byw yn Aberystwyth yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu corff cyffredin o wybodaeth i ddysgu Hanes Cymru mewn ysgolion yng Nghymru wedi ei llofnodi gan dros 5,000 o bobol.

Pan fydd deiseb yn casglu dros 5,000 llofnod, bydd y Pwyllgor Deisebau yn ystyried gofyn am ddadl yn Siambr y Senedd.

Bwriad Elfed Jones  yw ei chyflwyno i Senedd Cymru pan fydd cyfyngiadau’r coronafeirws yn cael eu llacio, ac mae wedi dweud wrth golwg360 y byddai’n fodlon ymprydio i wneud yn siŵr fod ei lais yn cael ei glywed.

 

Eglurodd Elfed Jones sydd yn wreiddiol o Drawsfynydd, ond sydd bellach yn byw yn Aberystwyth: “Mae’n bwysig dysgu hanes ein cenedl a’n treftadaeth i bawb sy’n mynd drwy’r system addysg yng Nghymru.”

“Dwi eisiau gwneud yn siŵr fod y mater pwysig yma yn cael ei drafod yn iawn a’i fod ddim yn cael ei daflu i’r ochr yng nghysgod y coronafeirws.

“Dwi am roi pwysau ar y llywodraeth, a hyd yn oed yn fodlon ymprydio.”

Nid dyma’r tro cyntaf i Elfed Jones cyflwyno deiseb i’r pwyllgor deisebau, cyflwynodd ddeiseb yn 2018 hefyd yn galw am newidiadau i sut mae hanes Cymru yn cael ei ddysgu mewn ysgolion.

“Y rheswm dros greu’r ail ddeiseb oedd gan fod y Gweinidog Addysg wedi derbyn bob pwynt o fy neiseb gyntaf heblaw am y pwynt am greu corff cyffredin o wybodaeth.”

 

“Cwricwlwm pwrpasol sy’n torri cwys newydd”

Mae Cwricwlwm Cymru yn nodi y dylai gwersi hanes yng Nghymru gyflwyno dysgwyr o bob oed i ystod o gyfnodau hanesyddol ar raddfa leol, genedlaethol a byd-eang.

Y llynedd gwrthodwyd argymhelliad Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu y dylai Cwricwlwm i Gymru 2022 gynnwys canllaw sy’n nodi corff cyffredin o wybodaeth ar gyfer yr holl ddisgyblion sy’n astudio hanes.

Mewn ymateb i’w argymhelliad dywedodd y Llywodraeth Cymru fod “y Cwricwlwm i Gymru yn gwricwlwm pwrpasol sy’n torri cwys newydd drwy ymwrthod â rhestrau o bynciau sydd i’w haddysgu.”

“Bydd canllawiau’r cwricwlwm hefyd yn glir ar ba mor bwysig ydyw i adlewyrchu Cymru, ei threftadaeth ddiwylliannol a’i hamrywiaeth, ynghyd a gwerthoedd, hanes a thraddodiadau ein cymunedau a’n pobl.

 

Mater o ddehongliad

Er hyn mae Elfed Jones, sydd hefyd yn lywodraethwr yn Ysgol Bro Hedd Wyn yn Nhrawsfynydd, yn credu y gall y pwysau ar athrawon a’r diffyg adnoddau arwain at anghysondeb yn sut mae hanes Cymru yn cael ei ddysgu ar draws y wlad.

Mae’n bryder sydd hefyd wedi ei leisio gan yr hanesydd Elin Jones a ddywedodd mai “mater o ddehongliad” yw faint o hanes Cymru y dylid ei ddysgu, a’i bod hi’n destun tristwch a rhwystredigaeth nad yw’r cwricwlwm newydd i Gymru yn dweud yn bendant fod angen dysgu Hanes Cymru yn y gwersi.