Ysgol Mynach yn rhagori
Mae Ysgol Mynach, Pontarfynach, wedi ennill safon ‘Rhagorol’ gan Estyn ym mhob un o’r pum maes arolygu – sef y safon uchaf posibl.
Y pum maes yw:
- safonau
- lles ac agwedd at ddysgu
- addysgu a phrofiadau dysgu
- gofal, cymorth ac arweiniad
- arweinyddiaeth a rheolaeth
Mae’r adroddiad diweddaraf yma gan Estyn yn nodi bod “bron pob disgybl yn gwneud cynnydd da iawn” a’u bod yn “ddysgwyr hyderus ac annibynnol”. Mae’n sôn hefyd bod yr ysgol “yn gymuned hynod glòs a theuluol”.
Cafodd yr athrawon glod mawr hefyd am y modd “arloesol” y maen nhw’n “addasu a datblygu’r cwricwlwm er mwyn magu annibyniaeth y disgyblion”.
33 o ddisgyblion oedd ar y gofrestr yn 2018, a Chymraeg yw y brif iaith. Mae 43% o’i disgyblion yn siarad Cymraeg gartref.
Mae’r adroddiad yn sôn bod Cymraeg y rhan fwyaf o ddisgyblion “yn llifo’n naturiol” a’u bod “yn mynegi eu hunain yn fedrus iawn” yn yr iaith.