gan
Medi James
Roedd Y Llew Du, Tal-y-bont dan ‘i sang nos Wener dwetha pan ddaeth y fythol ifanc Steve Eaves a Rhai Pobl atom.
Cerddorion talentog yw’r ‘Rhai Pobl’, sy o’i gwmpas a chyfeiriodd Steve at ba mor falch oedd o gael ei ‘ferch fach’ Manon Steffan, yn rhannu’r llwyfan ‘da fe.
Cawsom dwy awr a hanner o’r hen ganeuon a nifer oddi ar ei CD newydd.
Cyfeiriodd Steve am y cynifer o gigs, ers 1989, mae wedi eu cynnal yn Nhalybont naill ai yn Y Llew Gwyn neu’r Du.
Brysia nol Steve a dy ffrindiau.