Sara ac eraill yn serennu

Sara Hopkins o Lanfihangel y Creuddyn yn derbyn ei chymhwyster gofal plant mewn seremoni wobrwyo.

Mererid
gan Mererid

Roedd Sara Hopkins o Lanfihangel y Creuddyn ymysg nifer o fyfyrwyr a dderbyniodd eu cymhwyster gofal plant mewn seremoni wobrwyo yn Aberystwyth.

Cynhaliwyd y Seremoni yn y Theatr Canolfan y Celfyddydau, Prifysgol Aberystwyth ar ddydd Sadwrn, 19ain o Hydref 2019.

Cyflwynwyd y tystysgrifau i’r dysgwyr gan Huw Thomas o gwmni Sglein.

Bu’r seremoni hefyd yn cynnwys cyflwyno tystysgrifau i saith disgybl o ysgol Ardudwy, Harlech sydd wedi cymhwyso ar y cwrs Tystysgrif Lefel 2 mewn Gofal ac Addysg Plant.

Mae Cynllun Hyfforddi Cenedlaethol Mudiad Meithrin yn rhoi cyfle i oddeutu 100 o ddysgwyr i ymgeisio ar gyfer y cymhwyster mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar.

Dywedodd Eunice Jones, Rheolwr Cynllun Hyfforddi Cenedlaethol Diploma Lefel 3 a Chynllun Ysgolion Cam wrth Gam:

“Roedd y Seremoni yma’n ddiwrnod arbennig iawn i ddathlu llwyddiant y myfyrwyr. Mae’n hyfryd o beth fod cymaint yn cymhwyso trwy gyfrwng y Gymraeg ac mae’n galonogol deall fod y mwyafrif ohonynt wedi cael swyddi mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar.”

Mae’n rhaid i’r myfyrwyr sy’n mynychu’r cwrs weithio gyda phlant mewn lleoliad blynyddoedd cynnar am 16 awr yr wythnos yn ystod tymor yr ysgol yn unig a mynychu cyfres o saith gweithdy yn ystod y flwyddyn. Mae modd i’r myfyrwyr gael eu lleoli mewn Cylch Meithrin, Meithrinfa Ddydd, neu Ysgol Gynradd.

Steffanie Morris o ardal Machynlleth oedd ennill Dysgwr y Flwyddyn Canolbarth Cymru – grŵp sydd yn cwrdd ym Mhlas Antaron yn Aberystwyth i dderbyn hyfforddiant. Rachel Alford o Gaerfyrddin oedd ennill Tlws Dysgwr y Flwyddyn Cenedlaethol (ar draws Cymru), ac mae’n gweithio yn Ysgol Gymraeg y Cwm, Bon-y-maen, Abertawe.

Ymysg y swyddi mae’r myfyrwyr yn gallu eu gwneud ar ôl hyfforddi mae ymarferydd crèche, arweinydd mewn Cylch Meithrin, Cylch Chwarae neu Glwb ar ôl Ysgol, rheolwr neu ddirprwy reolwr mewn meithrinfa, neu gynorthwyydd mewn Cylch Meithrin, Meithrinfa, Clwb ar ôl Ysgol neu gynorthwyydd dosbarth mewn ysgol gynradd.

Mae Sara Hopkins yn gweithio ym Meithrinfa Camau Bach yn Aberystwyth, ac yn ddiolchgar i’w rhieni sydd yn y llun am eu cefnogaeth.