Mae Plaid Cymru wedi cadarnhau na fydd sedd Ceredigion yn rhan o’r fargen etholiadol y mae wedi’i tharo â’r Democratiaid Rhyddfrydol a’r Gwyrddion.
Dim ond 104 oedd y gwahaniaeth rhwng Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn y sir yn yr etholiad cyffredinol diwethaf yn 2017, sef 0.2% o’r bleidlais.
Doedd y Blaid ddim am “risgio’r holl drafodaeth” dros sedd Ceredigion, sy’n sedd y mae’n hyderus y bydd Ben Lake yn ei chadw.
“Gan fod y cytundeb yn cynnwys cymaint o seddi eraill, a gyda’r canlyniad mor agos y tro diwethaf, doedd neb eisiau bod ni’n risgio’r holl gytundeb ar un sedd [Ceredigion] oedd yn anodd i’w thrafod,” medd llefarydd ar ran Plaid Cymru.
“Ond gyda record Ben dros y blynyddoedd diwethaf, dydyn ni ddim yn poeni yn gwbl am golli’r sedd, rydyn ni’n hyderus iawn y bydd Ben yn ennill ‘ta beth.
Fydd y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Gwyrddion ddim yn cystadlu yn erbyn Plaid Cymru yn Nwyfor Meirionnydd, Arfon, Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Ynys Môn, Caerffili, Pontypridd, a Llanelli.
Mae golwg360 yn deall mai Mark Williams, a fu’n Aelod Seneddol ar Geredigion o 2005 i 2017, fydd yn sefyll dros y Democratiaid Rhyddfrydol yn yr etholaeth hon.
Rydym wedi cysylltu â swyddfa’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Ngheredigion ac yn y Cynulliad, yn ogystal â’i chynghorwyr ar Gyngor Sir Ceredigion, ac yn disgwyl ymateb.