Fe wnaeth Arweinydd Cyngor Ceredigion, Ellen ap Gwynn, annerch symposiwm ar fargeinion dinesig yn Abertawe yr wythnos ddiwethaf, er mwyn trafod Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru.
Nod y symposiwm oedd trafod ai bargeinion dinesig yw’r ffordd ymlaen i’r rhanbarthau hynny sydd wedi dioddef diffyg buddsoddi gan y sector preifat, gan gynnwys Ceredigion.
Gwnaeth Golwg ymholiadau ynghylch y Bartneriaeth a’i goblygiadau i ogledd Ceredigion, sef un o’r ardaloedd mae’n ei chwmpasu.
Denu pobl ifainc yn ôl i Geredigion
Gofynnwyd sut byddai’r Bartneriaeth yn mynd i’r afael ag allfudiad siaradwyr Cymraeg ifainc, sef problem sy’n llyffetheirio datblygiad economaidd yr ardal yn ogystal â gwanhau ei chymunedau Cymraeg.
“Heb y twf ni fydd yn bosibl i ni geisio datblygu cyfleoedd i gynnig swyddi da a fydd yn denu ein pobl ifanc lleol i aros neu i ddychwelyd i weithio yn y canolbarth” meddai’r Cyngor mewn datganiad di-enw.
“Mae cynlluniau eraill megis Arfor, sydd yn benodol ar gael i ddatblygu a thyfu busnesau cyfrwng Cymraeg. Mae’r gronfa yma yn berthnasol i siroedd Môn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gâr yn benodol, ac mae’n rhan allweddol o’r pictiwr ehangach i sicrhau dyfodol ffyniannus ein cymunedau.”
Gofynnwyd beth yw cynlluniau’r Bartneriaeth ar gyfer Aberystwyth, sy’n ganolbwynt economaidd i ardal gogledd Ceredigion, ond ni chafwyd ateb i’r cwestiwn hwn.
Asedau naturiol
Gyda chymaint o weithgarwch ynghylch yr argyfwng hinsawdd a gwarchodaeth amgylcheddol yn ardal gogledd Ceredigion, gofynnwyd sut mae’r Bartneriaeth yn bwriadu hyrwyddo a sicrhau datblygiad cynaliadwy o safbwynt yr amgylchedd.
Meddai llefarydd ar ran y Cyngor: “Mae llawer o waith y Bartneriaeth hyd yma wedi adnabod yn glir y cryfderau rhanbarthol sydd gennym yn ein asedau naturiol.
“Mae’r bartneriaeth yn glir fod cyfleoedd yma i fanteisio arnynt ond hefyd rhaid sicrhau fod ystod ein cynlluniau yn parchu egwyddorion datblygu cynaliadwy yn unol a’r ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.”