Sut flwyddyn oedd 2019?
Blwyddyn brysur! Trefnu Talwrn y Beirdd Ifanc oedd y gwaith mawr dros y chwe mis cyntaf – ymweld ag ysgolion Bro Myrddin a’r Preseli yn y de, a Glan Clwyd a Llangefni yn y gogledd, ynghyd â dau fentor, Gruffudd Owen ac Anni Llŷn, a threfnu dwy ornest ym Mehefin, a Ceri Wyn Jones yn meuryna. Roedd y prosiect yn llwyddiant, diolch i’r drefn, a’r disgyblion wedi cael blas mawr – eu blas cyntaf, yn aml – ar greu cerddi talyrnol o bob math, a bydd gornest arbennig yn cael ei recordio fel rhan o arlwy Talwrn y Beirdd ar BBC Radio Cymru yn y gwanwyn.
Fel arall, dringo’r Wyddfa o Ryd-ddu, mwynhau Eisteddfod brysur a difyr iawn, a chynnal nosweithiau llwyddiannus Cicio’r Bar yng Nghanolfan y Celfyddydau gyda Hywel Griffiths drwy gydol y flwyddyn!
Beth oedd uchafbwynt y flwyddyn i ti?
Cyhoeddi dau lyfr – y cyntaf, nofel o’r enw Ifor Bach, yn ôl fis Gorffennaf. Mi wnes i fwynhau’n fawr y gwaith o sgwennu’r nofel, o lunio’r stori a chreu’r cymeriadau, i lywio’r gwaith drwy’r wasg gyda Gomer a chydweithio â Jac Jones, sy’n dipyn o lej. Roedd y stori wedi bod yn troi a throsi yn y meddwl ers blynyddoedd, ac roedd cael y cyfle a’r gefnogaeth i’w rhoi hi ar bapur o’r diwedd yn brofiad hyfryd.
Mae’r un peth yn wir am y gyfrol ddiweddaraf – casgliad o gerddi ar y cyd â Sampurna Chattarji, awdur o India, o’r enw The Bhabachyaka and Other Wild Poems. Dwi a Sampurna wedi bod yn cydweithio ers blynyddoedd bellach, ac roedd cyhoeddi’r gyfrol yn gyffrous iawn.
Mi wyt ti newydd ddychwelyd o lansiad y llyfr hwnnw yng ngŵyl lenyddiaeth blant yn Delhi Newydd, sut brofiad oedd hyn?
Profiad arbennig. Mae cerddi’r gyfrol i gyd yn Saesneg ond yn seiliedig ar eiriau Cymraeg ac ar eiriau Bangla, sef iaith gyntaf Sampurna. Ro’n ni’n gosod geiriau i’n gilydd, rhai geiriau nad oedd y llall yn gwybod eu hystyr, fel ‘bhyabachyaka’ a ‘mishmishey’ i fi, a ‘ffrwchnedd’ a ‘dibyn-dobyn’ i Sampurna. Ro’n ni’n gwybod ystyr rhai geiriau, fel ‘dosa’ (math o fwyd) ac ‘Eisteddfod’, ac enwau rhyfedd ar lefydd, fel ‘Thiruvananthapuram’ a ‘Llanfairpwllgwyngyll …’, ond mi wnaethon ni hefyd greu geiriau newydd sbon, fel ‘sgrwch’ a ‘flipingaliti’. Fel medrwch chi’i ddychmygu, cawson ni lawer iawn o hwyl!
Ble ddechreuodd dy gyswllt di gyda India?
Nôl yn 2011, daeth Sampurna a chriw o feirdd eraill o India draw i Gymru, i Ganolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, er mwyn cymryd rhan mewn gweithdy cyfieithu efo criw o feirdd o Gymru, a drefnwyd gan y Gyfnewidfa Lên a Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau. Ro’n i’n ffodus iawn i fod yn rhan o’r prosiect hwnnw, ac yn ffodus hefyd i gael mynd i India’n fuan wedyn. Erbyn hyn, dwi wedi ymweld ag India ryw saith o weithiau, a dwi a Sampurna’n ffrindiau da.
Pa ddylanwad mae cydweithio gyda awdur o India wedi ei gael ar dy waith?
Mae cydweithio â Sampurna wedi agor fy llygaid i fyd cwbl newydd yn India a thu hwnt. Yn un peth, mae cymaint o ieithoedd gwahanol yn India, a chymaint o wahanol draddodiadau rhyfeddol, ac mae pob dim yn edrych yn wahanol iawn ar yr olwg gyntaf i’r hyn sy’n gyfarwydd i fi. Ond o gael dy arwain i mewn i wlad arall gan rywun sy’n byw yno – a chewch chi neb gwell na bardd i wneud hynny! – mi welwch chi’n fuan fod llawer iawn yn gyffredin hefyd rhwng pobl ar hyd a lled y byd.
Beth yn union yw Pujo, a be sydd gan Pujo a’r gynghanedd yn gyffredin?
Defod grefyddol yw ‘pujo’, rhan o ŵyl grefyddol yn India. Yn hynny o beth, does ganddo ddim llawer yn gyffredin â’r gynghanedd! Ond peth sy’n dod â phobl at ei gilydd yn aml yw ‘pujo’, a pheth lliwgar iawn, iawn sy’n fodern iawn ar y naill law ond yn eithriadol o hen hefyd. Mae’r Eisteddfod yn beth digon tebyg, am wn i, ac mae’r gynghanedd yn rhan bwysig iawn o’n hen brifwyl ni sy’n dod â phobl at ei gilydd bob Awst.
Beth sydd ar y gweill nesaf i Eurig Salisbury?
Cyhoeddi ail gyfrol o farddoniaeth i oedolion, Llyfr Gwyrdd Ystwyth (Barddas), ym mis Ionawr. Gwaith difyr iawn oedd dwyn yr holl gerddi ro’n i wedi’u creu dros y degawd diwethaf at ei gilydd, a rhoi trefn arnyn nhw. Dwi’n gobeithio’n fawr y bydd pobl yn cael blas mawr ar eu darllen.
Fel arall, y bwriad yw dychwelyd i India ddiwedd Ionawr, eto gyda Sampurna, er mwyn cymryd rhan mewn gŵyl yn Kolkata.
Beth yw dy addewid flwyddyn newydd ar gyfer y flwyddyn nesaf / degawd nesaf?
Dysgu sut a phryd i roi blaenoriaeth i rai pethau ar draul pethau eraill!
Mae’n debygol y bydd 2020 yn flwyddyn brysur arall, ond dwi’n edrych ymlaen ati’r un fath.