Mae angen trefn lle mae prisiau tai yng Ngheredigion yn gweddu i’r hyn y mae pobl leol yn gallu ei fforddio, meddai Cymdeithas yr Iaith.
Maent yn cynnal digwyddiad arbennig yn Aberystwyth ddydd Sadwrn – Hydref 12 – i drafod yr argyfwng prisiau tai, ac, yn arbennig, sut mae tai haf yn bygwth y Gymraeg.
Yn ôl y mudiad mae prisiau tai yng Ngheredigion ar gyfartaledd dros saith gwaith yn fwy na chyflogau, ac y llynedd, roedd 39% o’r cartrefi a werthwyd yng Ngwynedd naill ai’n gartrefi gwyliau neu’n dai ‘prynu i rentu’.
Roedd hynny, meddent, yn gynnydd o 34% ar y flwyddyn flaenorol.
Siaradodd Golwg â Jeff Smith, Cadeirydd Grŵp Cymunedau Cynaliadwy, am y digwyddiad.
Tai yn ‘wasanaeth cymdeithasol’
Meddai Robat Idris, aelod o Gymdeithas yr Iaith:
“Mae mwy a mwy o bobl yn ei chael hi’n anodd gwneud eu cartref ac aros yn eu hardal leol. Yn ei dro, mae hynny’n tanseilio bywyd cymunedol, ein trefi a’n pentrefi a’r Gymraeg.
“Mae angen cyfundrefn eiddo arnon ni sy’n sicrhau bod prisiau tai yn adlewyrchu’r hyn mae pobl leol yn gallu ei fforddio.
“[M]ae angen i ni ystyried mesurau eraill er mwyn dod â phrisiau lawr i bawb. Un ateb yw normaleiddio tai fel gwasanaeth cyhoeddus sydd mewn dwylo cyhoeddus yn hytrach nag ased preifat.
“Mae nifer o’r problemau yma’n ganlyniad i’r ffordd rydyn ni’n edrych ar dai, fel ased mewn marchnad yn hytrach na gwasanaeth cyhoeddus.”
Treth ar ail-gartrefi
Penderfynodd Cyngor Sir Ceredigion osod premiwm o 25% ar Dreth y Cyngor i ail gartrefi/cartrefi haf ym mis Ebrill 2017 ac felly gallai hyn, yn y dyfodol, effeithio ar gostau tai yng Ngheredigion.