Yn ôl aelodau blaenllaw o’r prosiect amgylcheddol O’r Mynydd i’r Môr, mae’r iaith Gymraeg yn ystyriaeth ganolog am mai hi yw iaith ‘gynhenid’ yr ardal.
Maen nhw wedi ceisio tawelu ofnau rhai gwrthwynebwyr trwy bwysleisio bod hynny’n golygu cydweithio â chymunedau lleol a chadw’r economi mor lleol â phosib.
“Diffyg ystyriaeth o’r gymuned Gymraeg” oedd un o’r rhesymau pam fod mudiad Eco Dyfi wedi gadael y prosiect ac mae eraill yn poeni ei fod yn golygu ailwylltio a chyflwyno hen anifeiliaid fel y blaidd.
Ond mewn cyfweliad arbennig gyda bro360, roedden nhw’n gwadu bod lle i bryderu gan ddweud bod y prosiect yn fodlon ystyried pwy yw’r partneriaid, a hefyd na fydd unrhyw dir yn cael ei brynu.
‘Cadw’r iaith i fynd trwy fyd amaeth’
“Dw i yn deall y pryderon ambyty’r iaith, faint mae’r iaith yn cael ei siarad o fewn y byd amaeth, ac os ydyn ni’n colli’r byd amaeth, beth mae hynny’n ei olygu i’r iaith,” meddai Sian Stacey, Cydlynydd Ymgysylltu â’r Gymuned O’r Mynydd i’r Môr.
“Mae hwnna’n rhywbeth dwi’n pryderu amdano fel siaradwr Cymraeg”, meddai “ond dyna sut gall y prosiect yma helpu, trwy gadw’r byd amaeth i fynd, trwy gadw’r iaith i fynd trwy’r byd amaeth, ond hefyd atgyfnerthu’r iaith tu allan i’r byd amaeth yn yr ardal leol.
“Mae yna lwyth o bobol sy’n siarad Cymraeg sydd ddim yn gweithio ar ffarm, neu sydd ddim yn y byd yna o gwbl ac sy’n dal i siarad yr iaith, ac os oes pobl yn mynd i symud i mewn, wedyn eu cefnogi nhw i ddysgu’r iaith a’i defnyddio o ddydd i ddydd.”
‘Pwysig cadw’r economi yn lleol’
Yn y cyfweliad gyda bro360, roedd Sian Stacey hefyd yn pwysleisio’r angen i gynnal yr economi lleol.
“Mae’n bwysig inni drio cadw’r economi yn un leol, fel bod y pres sy’n cael ei wario yn yr ardal yn mynd i’r cymunedau yn yr ardal, yn hytrach nag ‘absentee landlords’”.
“Mae’n bwysig bod cwmnïau eco-dwristiaeth yn defnyddio pobl leol yn hytrach na phobl yn fflio mewn i sefydlu busnes yma oherwydd bod yna gyfleoedd iddyn nhw.
“Dw i’n siŵr o ran pobl leol, bydd y pryderon ynghylch ail-gartrefi yn rhywbeth eithaf uchel. I fi, dw i’n rhywun sy’n meddwl am hynny trwy’r dydd, dw i ddim yn berchen ar dŷ eto, a dwi ddim yn siŵr y byswn i’n gallu fforddio tŷ yn lleol.
“Felly mae hwnna yn bersonol i mi, ac yn rhywbeth dwi’n ymwybodol ohono fe yn llwyr.
‘Dylunio ffordd trwyddo gyda’n gilydd’
“Ond ar yr ochr arall, dwi ddim chwaith yn rhywun sydd yn erbyn pobl newydd yn dod i mewn, ac mae hwnna ambell waith yn rhywbeth sy’n eitha blurry yn y byd gwleidyddol Cymraeg.
“Dw i’n gweld sut gall hwnna fod yn bryder i’r bobol sydd yn erbyn y prosiect ar hyn o bryd, ond eto, bysen i’n argymell i bobol ddod aton ni efo’r syniadau yma, efo’u pryderon nhw at y dyfodol, a gweld sut gallen ni ddylunio gyda’n gilydd ffordd trwyddo fe er lles pawb.
“Dw i’n gweld yr argyfwng hinsawdd yn fygythiad i’r iaith Gymraeg, ac maen nhw’n sôn yn y cyfryngau yn Llundain ac yn y blaen am indigenous communities, wel, rydyn ni mewn ffordd yn indigenous community, indigenous iaith.”
Cefndir
Menter amgylcheddol sy’n anelu at adfer eco-systemau dros 10,000 hectar o dir a 28,400 hectar o’r môr yw O’r Mynydd i’r Môr. Mae’n cwmpasu godreon Pumlumon yn y mewndir hyd at aber Afon Dyfi a pheth o’r môr y tu hwnt iddi.
Mae wedi ennill £3.4m o gyllid am y 5 mlynedd nesaf trwy’r Rhaglen Tirweddau Dan Berygl.
Y ddau brif bartner yw Rewilding Britain a Coed Cadw. Beirniadwyd y prosiect gan ffermwyr lleol am beidio â bod yn glir ynghylch ei amcanion, ac am ran Rewilding Britain ynddo.