Yn ôl cynlluniwr iaith, mae angen mwy o gyd-destun wrth drafod cynlluniau amgylcheddol, am ei bod hi’n “dibynnu i ba bryd rwyt ti eisiau troi y cloc yn ôl”.
Meddai Gareth Ioan: ““Mae’r cwestiwn o adfer tirwedd yn un llwythog, ac mae pobl yn rhoi eu gwerthoedd a’u gweledigaeth eu hunain ynghlwm â’r term hynny yn ôl eu diben eu hunain.”
Gyda phosibiliad Brexit heb gytundeb yn parhau i fwrw ei gysgod tros amaethyddiaeth yng ngogledd Ceredigion, ochr yn ochr â thrafod parhaus ar rôl prosiectau amgylcheddol fel O’r Mynydd i’r Môr yn yr ardal, siaradodd broaber360 â Gareth Ioan am sefyllfa’r byd amaethyddol.
Perchnogaeth ar y tir
“Mae rhywun yn gweld o fewn y cynllun arfaethedig y mae Llywodraeth Cymru wedi ei gynnig mai cadwraeth a’r amgylchedd sy’n cael blaenoriaeth. Maen nhw’n gweld ffermwyr, coedwigwyr a rheolwyr tir eraill fel stiwardiaid ein tir.
“Nawr te, dyna bwynt eithaf dadleuol ynddo ei hunan: pwy yw’r ‘ein’ yma sy’n berchen ar ein tir ni? Felly mae hwnna yn faes ynddo’i hunan: perchnogaeth gyhoeddus ar y tir; perchnogaeth y genedl ar y tir; perchnogaeth breifat ar dir. Beth mae’r ‘ein tir’ yn ei olygu?
“Gallet ti gael dadl enfawr ynglŷn â’r rhagenw perthynol yna yn unig. Ond mae’r amgylchedd ac ati yn amlwg yn mynd i fod yn flaenoriaeth, ac mae stiwardiaeth ffermwyr ag eraill ar y tir yn amlwg o ddiddordeb cyhoeddus – dyna yw’r cyfiawnhad, mewn ffordd, dyna’r rationale ar gyfer y cynlluniau newydd ‘ma sy’n cael eu cynnig.
Golygfeydd neu gymdeithas?
Mae gogledd Ceredigion yn ddeniadol i gynlluniau o’r math “oherwydd ei bod yn ardal mor wledig, ac yn ail, dyw hi ddim mor bell â hynny o’r llefydd dinesig yn Lloegr ‘chwaith”, meddai Gareth Ioan.
“Wel, mae tipyn i’w weud am hynny, ond rhywbeth sy’n croesi’r meddwl: mae ‘na ym Mhrydain llefydd dipyn mwy anial a gwyllt na Bro Ddyfi i’w cael.
“Dwi’n cofio flynyddoedd yn ôl mynd i fynydda yn yr Alban, ac os ei di lan i unrhyw gopa yn yr Alban, dwyt ti ddim yn gweld dim byd am ryw hanner can milltir a mwy, felly mae rhywun yn meddwl: ‘Pam Bro Ddyfi?
“Yr hyn sy’n bryderus yw i ba raddau y mae’r bobl sy’n arddel y gwerthoedd hynny wedi medru gweld perthnasedd yr un gwerthoedd cadwraethol i’r iaith a’r diwylliant sydd yn bod yn yr ardal hefyd.
“Wyt ti moyn llefydd hardd i bobl bipo arnyn nhw bob hyn a hyn, neu llefydd anial fel bod cynefinoedd yn cael eu ‘hadfer’, neu fod ‘na gymuned a chymdeithas yn gallu byw yna.”
‘Cwestiwn llwythog’
Gair ‘llwythog’ yw ailwylltio, meddai Gareth Ioan, wrth drafod meddylwyr megis George Monbiot, y cadwriaethwr amlwg, a’u hagwedd tuag at ail-wylltio, am fod y syniad o adfer yn “anhanesyddol”.
Dywed fod y tir wedi ei ddefnyddio at wahanol ddibenion amaethyddol a didwydiannol ers canrifoedd lawer yng ngogledd Ceredigion.
Meddai: “[efallai] bod e eisiau creu rhyw dirwedd yn ôl rhyw ddelfryd sydd gydag e o ran sut dyle llefydd edrych, a dwyn pobl o’r un anian ag e i ryfeddu a synnu: ‘edrychwch be ‘dan ni wedi’i neud fan hyn’”.
“Mae’r cwestiwn o adfer tirwedd yn un llwythog, ac mae pobl yn rhoi eu gwerthoedd a’u gweledigaeth eu hunain ynghlwm â’r term hynny yn ôl eu diben eu hunain.
“Mae’n dibynnu i ba bryd rwyt ti eisiau troi y cloc yn ôl.