Ffarwelio â WJ – cyfaill y genedl

Mewn angladd yng Nghapel y Garn, Bow Street, ffarweliwyd â’r Parchedig W J Edwards.

Mererid
gan Mererid

Mewn angladd yng Nghapel y Garn, Bow Street heddiw, ffarweliwyd â’r Parchedig W J Edwards.

Yn wreiddiol o ogledd Ceredigion, cafodd ei addysg yn Ysgol Llancynfelin ac Ysgol Ardwyn, Aberystwyth, ond rhwystrodd afiechyd twymyn scarlett rhag iddo fynd i’r Brifysgol. Bu’n gweithio am gyfnod yn gwerthu dillad yn siop Clive Menwear, Aberystwyth, lle daeth i nabod pawb yng ngogledd Ceredigion ac ymddiddori yn eu teuluoedd a’u llinach, rhywbeth y bu iddo barhau drwy weddill ei oes. Bu wedyn yn gweithio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Bydd rhai ohonoch yn ei gofio fel Bill Bow Street, ac yn frawd i Iorweth, Mair a Wyn. Bydd eraill ohonoch yn ei gofio yn annwyl fel W J.

Cafodd ei ysbrydoli mewn Ysgol Haf i ddychwelyd i addysg gan fynychu Coleg Diwinyddol yn Abertawe i hyfforddi fel gweinidog, a bu’r Ysgol Haf hefyd yn gyfle iddo gwrdd â’i wraig Gwenda.

Daeth yn weinidog yn Llanuwchllyn ym 1967, yn dilyn ymadawiad y Parchedig Gerallt Jones. Roedd yn weinidog ar holl fro Llanuwchllyn gan gynnwys eglwysi yr Hen Gapel, Carmel, Peniel, Glanaber, Ysgoldy, Cynllwyd, heb sôn am eglwys yn Rhosygwalia. Roedd yn falch iawn fod yr eglwys fro yn cynnwys Annibynwyr, Methodistiaid a Bedyddwyr.

Tra’n byw yn Llanuwchllyn, daeth ef a Gwenda yn rhieni i Nest, Lowri a Non.

Wedi 25 o flynyddoedd yn Llanuwchllyn, symudodd ym 1992 i Gapel y Priordy yng Nghaerfyrddin a chapeli eraill yr ardal.

Yn 2001, dychwelodd i Bow Street, gan gyflawni gwaith bugeilio ar nifer o gapeli yn ardal Aberhosan tan 2011. Yn 2007, aeth y Parchedig W J Edwards a’i wraig Gwenda am dri mis i Batagonia yn gweinidogaethu o fis Medi tan y Nadolig, rhywbeth roedd eisiau ei wneud drwy ei weinidogaeth, ac yn hynod o falch iddo gael y cyfle i’w wireddu.

Am 40 mlynedd, roedd ganddo golofn wythnosol i bapur newydd Y Cyfnod “O’r byd a’r betws”, gan adolygu amrywiaeth helaeth o lyfrau a chyfrannu yn gyson i raglenni BBC Radio Cymru. Roedd hefyd yn genedlaetholwr ac yn weithgar gyda Chymdeithas yr Iaith a Phlaid Cymru, ac ni chollodd yr un Eisteddfod Genedlaethol rhwng 1958 a’i waeledd. Cymerai lawer o falchder mewn paratoi bywgraffiadau trylwyr ar enillwyr yr Eisteddfod Genedlaethol, gan gefnogi gwaith ei frawd Hywel Wyn Edwards.

Er iddo gael cyfnodau o salwch yn y blynyddoedd diwethaf, treuliodd ei ddiwrnod olaf yn mwynhau cwmni ei wyres, Erin, ac roedd ei ddiolch yn fawr i Gwenda am ofalu amdano, yn ogystal â Meddygfa Borth. Diolchwyd i bawb a aeth i ymweld ag ef yn ei waeledd, gan ei fod mor falch o gael sgwrs gydag unrhyw un.

Dywedodd ei gyfaill y Parch. Hywel Wyn Richards “Roedd y bywyd crefyddol, diwylliannol, a chymdeithasol yn plethu drwy’i gilydd iddo fe,” meddai, “do’dd crefydd ddim ar wahân i bopeth o ddydd i ddydd.”

Roedd y gwasanaeth yng ngofal Y Parchedig Ddr R Watcyn James, a chafwyd cyfraniadau gan nifer o’i gydweinidogion a Sulwyn Thomas.

Parch W J Edwards

Derbynnir cyfraniadau er cof am y Parchedig W J Edwards er budd Meddygfa Borth ac Eisteddfod Ceredigion 2020, drwy law’r trefnwr angladdau, C T Evans, Brongenau, Llandre, Aberystwyth, Ceredigion, SY24 5BS.