Blog noson yr etholiad, sy’n dod yn fyw o’r cyfrif yng Nghanolfan Hamdden Aberaeron.
- Mwyafrif o dros 6,300 i Ben Lake yng Ngheredigion
- Y Torïaid yn dod yn ail
- Mark Williams yn cyhoeddi na fydd yn sefyll eto. “mae 20 mlynedd yn eitha’ digon” meddai.
Felly, mae’r bleidlais a’r ben a’r cyfrif ar fin dechrau. Ond sut aeth hi gyda’r pleidiau?
Mae timau Plaid Cymru, y Dem Rhydd, Llafur, y Ceidwadwyr a’r Gwyrddion wedi cyrraedd y cyfrif, ac mae ymgeisydd y Blaid Werdd yma hefyd – Chris Simpson.
Ni newydd gael sgwrs gydag un o’i ymgyrchwyr ifanc – Tomos Barlow – i glywed shwt ymgyrch mae wedi bod i’r blaid yn y sir:
“Mae’r ymgyrch Plaid Werdd yn Ceredigion wedi bod yn dda. Trwy ein stondinau stryd i fynd i’r hystings i’r ffilm 2040 ddangoswyd yn yr Canolfan Celfyddydau Aberystwyth, siaradon ni gyda amryw o bobl o gwmpas y sir. Mae ein ymgeisydd, Chris Simpson, yn barod i sefyll i fyny a cynrychioli pawb yn y sir yn trio taclo ein argyfwng hinsawdd, cael economi werdd yng Ngheredigion, trio cyflwyno UBI i’r wlad a sefyll i fyny dros wleidyddiaeth barchus i’r pobl o Geredigion ac ymhellach. Mae pleidlais ar gyfer ni yn pleidlais ar gyfer newid.”
Caleb a Lowri yn cownt Ceredigion heno. Cadwch lygad ar hwn er mwyn cael y newyddion diweddaraf – Ni mewn am noson hir!
Rydym yng nghanol ffug etholiad yn Ysgol Bro Pedr ar hyn o bryd – Diolch i’r chweched an drefnu/ We are in the middle of a mock election in Bro Pedr right now – thank you sixth form for organising #GeneralElection2019 pic.twitter.com/Y59msoBKKQ
— Ysgol Bro Pedr (@YsgolBroPedr) December 12, 2019