Etholiad 2019 – Blog byw o’r cownt yng Ngheredigion

gan Caleb Rees

Blog noson yr etholiad, sy’n dod yn fyw o’r cyfrif yng Nghanolfan Hamdden Aberaeron.

  • Mwyafrif o dros 6,300 i Ben Lake yng Ngheredigion
  • Y Torïaid yn dod yn ail
  • Mark Williams yn cyhoeddi na fydd yn sefyll eto. “mae 20 mlynedd yn eitha’ digon” meddai.

02:27

Fy Rhagolygon Personol – Wrth edrych ar sut mae pethau’n mynd ar hyn o bryd, dwi’n rhagweld fyd Ben Lake yn ennill gyda mwyafrif o tua 3,800. Cawn weld y canlyniad go iawn cyn bo hir, gobeithio!

Dafydd O Lewis
Dafydd O Lewis

Gobeithio fo ti’n iawn gwas ! Pa amser bydd y cynlyniad ti’n meddw

Mae’r sylwadau wedi cau.

01:58

Dim ond un ymgeisydd sydd ar ôl heb gyrraedd y cownt yng Ngheredigion…

01:55

Wedi cael cyfle i gael sgwrs cyflym gyda Ben a roedd e’n weddol ffyddiog fod pobl Ceredigion wedi’i gefnogi. Fe bwysleisiodd bod yr ymgyrch wedi bod yn un gref a diolchodd bod gymaint o bobl wedi bod allan yn helpu ledled y Sir.

01:50

Tîm Plaid Cymru yn y cownt

 

01:43

Chop chop!

01:38

Ben Lake wedi cyrraedd – pethau’n edrych yn addawol iawn iddo ar hyn o bryd!

01:36

01:35

01:15

 

01:00

Amanda Jenner o’r Ceidwadwyr wedi cyrraedd! Edrych fel bod cefnogaeth dros y Ceidwadwyr yn gryf tro yma.