Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi ennill ‘Gwobr Awdurdod Lleol 2019’ yng Ngwobrau Noddi Cymunedau 2019, diolch i’w ymdrechion yn croesawu ffoaduriaid. Fe wnaeth arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, dderbyn y wobr genedlaethol ynghyd â Cathryn Morgan, Cydlynydd Pwynt Teulu a Ffoaduriaid y Cyngor.
Ceredigion oedd un o 5 awdurdod lleol i gael eu henwebu am y wobr sy’n cael ei rhoi am gydweithio â grwpiau cymunedol sy’n helpu teuluoedd sy’n ffoi rhag rhyfel, newyn, a digartrefedd.
‘Cymunedau ymroddedig’
“Rwyf wrth fy modd ein bod ni wedi llwyddo i ennill gwobr ar lefel y DU,” meddai Ellen ap Gwynn. “Y wobr fwyaf yw gwybod ein bod wedi helpu cymunedau yng Ngheredigion i gynnig cyfeillgarwch a diogelwch i ffoaduriaid o Syria sy’n ffoi rhag erchyllterau rhyfel cartref.”
“Tra bod cael ein cydnabod am ein cyfraniad yn anrhydedd, ni fyddwn wedi ennill y wobr pe na bai am y cymunedau ymroddedig yn Aberystwyth ac Aberteifi. Mae Aberaid a Chroeso Teifi yn rhannu ein llwyddiant.”
Lansiwyd y cynllun Noddi Cymunedau gan y Swyddfa Gartref yn 2016. Ei nod yw galluogi grwpiau o wirfoddolwyr i ailgartrefu teulu o ffoaduriaid yn eu cymunedau. Mae’n rhaid i’r cynlluniau gael eu cymeradwyo gan y cyngor cyn iddynt gael caniatâd gan y Swyddfa Gartref, a fydd wedyn yn paru ffoaduriaid â grŵp o’r gymuned.
Cyrhaeddodd teulu arall o ffoaduriaid Aberystwyth ym mis Mehefin, a chafodd digwyddiad llwyddiannus ‘Dewch at Eich Gilydd’ ei gynnal yn y Morlan i’w croesawu. Yn ogystal â hynny, cafodd ‘Cinio Syria’ ei gynnal yn Theatr y Werin.