Noson i gofio T. Llew Jones (1915–2009)

Trefnwyd noson i gofio am yr awdur T. Llew Jones yn Llyfrgell Ceredigion nos Fercher 9.10.19.

William Howells
gan William Howells

T Llew Jones

Dydd Gwener 11 Hydref yw Diwrnod Cofio T. Llew Jones. Fel rhan o ddathliadau Wythnos Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru trefnwyd noson i gofio am yr awdur yn Llyfrgell Ceredigion, Aberystwyth nos Fercher 9 Hydref.

Tudur Dylan

Tudur Dylan Jones oedd y gŵr gwadd a thestun ei sgwrs oedd ‘O Bont Dŵr Bach i Bont-garreg’ – cyfle iddo yn ei ffordd arbennig, i ddwyn i gof farddoniaeth, storïau a chymeriad T. Llew, ac i godi awydd ynom i ymweld – neu ailymweld – â Chwm Alltcafan.

Roedd y gynulleidfa helaeth, gan gynnwys nifer o deulu’r awdur, wrth eu bodd.

Bois y Fro

Yn dilyn daeth Bois y Fro, sef Efan Williams, Gregory Vearey Roberts, Sion England a Barry Powell, a’u cyfeilydd Sara James, ymlaen i gyflwyno nifer o’r hen ffefrynnau, yn cynnwys ‘Y Mochyn Du’, ‘Gwenno Penygelli’, ‘Ceidwad y Goleudy’ a chloi gyda ‘Hafan Gobaith’.

Delyth Huws

Roedd y croeso a’r diolchiadau dan ofal Delyth Huws, aelod o staff Llyfrgell Ceredigion.

Rhan o’r gynulleidfa

Diolch i Lyfrgell Ceredigion am drefnu’r noson i gofio un a gyfrannodd gymaint at lên ein cenedl.